Digwyddiad Melin Drafod
Ymunwch â ni yn ein 'Melin Drafod' Cyfranogiad newydd i archwilio syniadau newydd (a rhai wedi’i diweddaru) ar gyfer sut i wefrio ac adnewyddu eich ymgysylltiad. Cewch ddysgu sut i ehangu a thrawsnewid cyfranogiad a darganfod technegau neu arferion y gallech eu defnyddio yn eich sefydliad neu'ch cymuned.
Bydd sesiynau yn cynnwys:
Alliance Homes: Ymagwedd newydd i gynnwys cwsmeriaid
Mae grŵp Alliance Homes wedi newid eu dulliau o gyfranogiad tenantiaid yn sylweddol, gan gynnwys eu hymagweddau o ran Tenant Graffu. Eu nod oedd sicrhau bod y cyfranogiad a gynigiwyd yn fwy cynrychiadol a chynhwysol. Bu iddynt fuddsoddi mewn dulliau newydd, megis eu ‘Bŵt Camp’ Craffu, i ennill a deall barn ystod ehangach o Denantiaid. Cewch glywed sut y gweithiodd hyn a sut mae preswylwyr yn dylanwadu a chraffu ar wasanaethau a chadw ffocws lleol.
Damcaniaeth Ymddygiadol / Ysgogi (Nudge Theory): A all ein helpu i gael mwy o bobl i gymryd rhan?
Beth yw damcaniaeth ymddygiadol? A beth yw “nudge”? A all ein helpu i gael mwy o bobl i gymryd rhan? Archwiliwch sut y gallwn ddefnyddio'r hyn a wyddom am sut y mae pobl yn ymddwyn ac yn meddwl i ddod o hyd i ffyrdd i'w hannog i gymryd rhan.
Casglu Tystiolaeth Ar-lein: Archwilio'r gorau mewn offer arolwg ar-lein
Archwilio sut i ehangu a thrawsnewid eich cyfranogiad gan ddefnyddio offer ymgynghori / arolwg ar-lein syml. Gall defnyddio dulliau arolwg ar-lein helpu i sicrhau bod llais a barn pawb yn cael eu gwerthfawrogi, a gall ategu gweithdai neu arolygon post traddodiadol. Dewch i wybod am y gwahanol offer sydd ar gael, beth sy'n gweithio orau, ac awgrymiadau gwych i fynd adref gyda chi. Mae'n hwyl, yn ymarferol ac mae'n cynnwys enghreifftiau defnyddiol o'r sector tai a thu hwnt.
Am hanner pris i aelodau, ni fyddwch eisiau methu hwn….
Gellir archebu eich lle trwy gwblhau’r ffurflen archebu yma neu or trwy ddefnyddio’r system archebu ar-lein isod.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymagweddau Newydd ar gyfer Cyfranogiad
Dyddiad
Dydd Llun
15
Hydref
2018, 10:30 - 15:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Llun 08 Hydref 2018
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
[email protected]
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Unite Building
Cyfeiriad y Lleoliad
The Unite Building
1 Cathedral Road
South Glamorgan
Cardiff
CF11 9SD
029 2023 7303