Mae’r cwrs yma wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Tai Pawb a TPAS Cymru gan ddefnyddio arbennigedd y ddwy sefydliad. Mae’r cwrs wedi ei ddylunio i adlewyrchu arferion da ac fe fydd yn cael ei hwyluso gan hyfforddwyr profiadol o’r ddwy sefydliad.
Yn anfwriadol, rydym yn aml yn gosod rhwystrau sy'n atal ein tenantiaid a'n preswylwyr rhag cymryd rhan yn y digwyddiadau a gynlluniwyd i'w cynnwys!
Bydd y sesiwn hyfforddi undydd hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud fel unigolion a sefydliadau i osgoi creu rhwystrau a'i gwneud yn haws i'n tenantiaid / preswylwyr, pwy bynnag ydynt, i gymryd rhan.
Ar y cwrs yma byddwch yn:
-
Edrych ar y manteision o gyfranogi ac ymgysylltu
-
Nodi rhwystrau i ymgysylltu â thenantiaid a phreswylwyr o grwpiau ‘angen eu cyrraedd’
-
Edrych ar rhai o argymhellion yn y ddogfen The Right Stuff – hearing the tenants’ voice.
-
Cydnabod sut i osgoi neu gael gwared ar rwystrau i gyfranogi / ymgysylltu
-
Dylunio cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad/ymgysylltiad cynhwysol
-
Ystyried pwysigrwydd adolygu gweithgareddau
Mae’r cwrs yma ar gyfer:
Unrhyw un sydd eisiau gwybod am y ffyrdd gorau i ymgysylltu â tenantiaid/preswylwyr i fod yn gynhwysol.
Gellir darparu pob cwrs hyfforddi TPAS Cymru yn fewnol, mewn lleoliad cyfleus ar gyfer eich sefydliad, ac yn Saesneg neu yn Gymraeg. Gall cynnwys y cyrsiau hyfforddi gael eu haddasu i weddu i anghenion eich sefydliad.
Am ragor o wybodaeth, cysyllter â Iona Robertson trwy’r maylion isod:
TPAS Cymru, 77 Ffordd Conway, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7LN
Ffôn: 01492 593046
Ebost: [email protected]
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgysylltiad Cynhwysol – Ei Gael yn Iawn
Dyddiad
Dydd Mawrth
17
Medi
2019, 10:00 - 15:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 10 Medi 2019
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Tai Pawb Offices
Cyfeiriad y Lleoliad
Norbury House
Norbury Rd
Cardiff
CF5 3AS
029 2053 7630