Dydd Mawrth 26 a Dydd Iau 28 Ebrill: 10.30 – 12.30
Mae'r byd wedi newid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ac felly hefyd y ffordd yr ydym yn ymgysylltu â'n preswylwyr / tenantiaid. Yn ddifwriad, rydym yn aml yn gosod rhwystrau sy'n atal ein tenantiaid a'n preswylwyr rhag cymryd rhan yn y digwyddiadau rydyn ni'n eu cynllunio i'w cynnwys nhw!
Bydd y 2 x sesiwn hyfforddi hanner diwrnod hyn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud fel unigolion a sefydliadau i osgoi creu rhwystrau ac i'w gwneud hi'n haws i'n tenantiaid / preswylwyr, pwy bynnag ydyn nhw, i gymryd rhan.
Rhennir y cwrs hwn dros ddau fore:
Sesiwn 1: Byddwn yn edrych ar y theori ynghylch ymgysylltu cynhwysol.
-
Archwilio buddion cyfranogiad ac ymgysylltiad
-
Nodi rhwystrau i ymgysylltu â thenantiaid a phreswylwyr o grwpiau ‘angen eu cyrraedd’.
-
Cydnabod sut i osgoi neu ddileu rhwystrau i gyfranogiad ac ymgysylltiad
Sesiwn 2: Rhoi'r theori ar waith
-
Dylunio cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad / ymgysylltiad cynhwysol
-
Ymarfer rhai dulliau gwahanol o adolygu gweithgareddau
-
Mynd â rhywfaint o ddysg ac arfer da i ffwrdd efo chi
Datblygwyd y cwrs hwn fel partneriaeth rhwng Tai Pawb a TPAS Cymru gan ddefnyddio arbenigedd a rennir o’r ddau sefydliad. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i adlewyrchu arfer da a bydd yn cael ei ddarparu gan hyfforddwyr profiadol o'r ddau sefydliad.
Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn fwy cynhwysol wrth ymgysylltu â thenantiaid a phreswylwyr.
Cost i fynychu’r ddau sesiwn:
£59 + TAW ar gyfer aelodau TPAS Cymru / Tai Pawb
£89 + TAW i bawb arall
I archebu eich lle ar gyfer y sesiwn gyntaf Dydd Mawrth 26 Ebrill, cofrestrwch trwy glicio ar y ddolen Zoom yma:
I archebu eich lle ar gyfer y sesiwn gyntaf Dydd 28 Ebrill, cofrestrwch trwy glicio ar y ddolen Zoom yma:
Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook
Telerau ac Amodau Archebu - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgysylltu cynhwysol - gwneud pethau'n iawn mewn byd newydd (Hyfforddiant 2 ran)
Dyddiad
Dydd Mawrth
26
Ebrill
2022, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 21 Ebrill 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad