Mae’r wybodaeth gryno hon wedi’i chasglu gan denantiaid a fynychodd Rwydweithiau Tenantiaid/digwyddiadau diweddar neu drwy sylwadau tenantiaid ar gyfryngau cymdeithasol

4 peth y mae tenantiaid yn dweud wrthym am…Osod rhent

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi clywed y canlynol gan denantiaid sydd wedi rhannu eu profiad o osod rhent gyda ni.  Mae’r wybodaeth gryno hon wedi’i chasglu gan denantiaid a fynychodd Rwydweithiau Tenantiaid/digwyddiadau diweddar neu drwy sylwadau tenantiaid ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae tenantiaid yn dweud wrthym:

  1. Eu bod yn pryderu nad yw Landlordiaid wedi ymgynghori â’r corff ehangach o’u tenantiaid nac wedi cael trafodaethau gyda nhw cyn pennu lefel y rhent ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-2024.

Sefydlodd un landlord grŵp ffocws o nifer fach o denantiaid a defnyddiodd landlord arall Grŵp Ffocws Tenantiaid i rannu gwybodaeth am godiadau rhent arfaethedig, ond ni roddwyd gwybodaeth na chyfle i’r corff ehangach o denantiaid wneud sylwadau yn y naill achos na’r llall.

Yn gyffredinol, anfonwyd llythyrau at denantiaid yn eu hysbysu y byddai cynnydd mewn rhent o 1 Ebrill 2023

Safbwynt TPAS CymruMae ymgynghori a thrafodaethau gyda thenantiaid am fforddiadwyedd a gosod rhent yn ofyniad gan Lywodraeth Cymru (cliciwch y ddolen yma) ac mae'n ofynnol i Landlordiaid gwblhau'r Templed Monitro Hunan-Ardystio.  

Ar wahân i ofyniad Llywodraeth Cymru uchod, mae rhannu gwybodaeth ac ymgynghori â thenantiaid yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd rhwng landlord a thenantiaid.     

  1. Yn debyg i bwynt 1 uchod, mae tenantiaid yn poeni na roddodd landlordiaid wybodaeth fanwl am opsiynau cynyddu rhent a’r effaith bosibl ar wasanaethau yn sgil y lefelau rhent gwahanol hynny. E.e. Os na chaiff rhenti eu cynyddu, dyma fydd yr effaith ar y gwasanaethau a ddarparwn; os bydd rhenti'n cynyddu 3% mae hyn yn debygol o effeithio ar rai gwasanaethau; os bydd rhenti'n cynyddu gan yr uchafswm o 6.5% a ganiateir... ac ati.

Safbwynt TPAS Cymru: Mae'r manylion hyn yn galluogi tenantiaid i wneud penderfyniad ystyriol pan ofynnir iddynt am eu barn ynghylch unrhyw gynnydd arfaethedig mewn rhent. Mae hefyd yn dangos awydd landlord i fod yn agored ac yn dryloyw gyda thenantiaid ynghylch diogelu gwasanaethau.   

 
  1. Roedd anesmwythder nad oedd llythyrau’n esbonio pam a sut roedd rhenti wedi’u ‘pennu’ ar y lefel benodol honno h.y. dim ond rhoi gwybod i denantiaid beth fyddai’r codiad rhent. Yn yr un modd, ni roddodd landlordiaid unrhyw wybodaeth am unrhyw ymgynghori/rhannu gwybodaeth gyda thenantiaid cyn unrhyw benderfyniad ar godiadau rhent.

Roedd cwpl o landlordiaid y clywsom amdanynt wedi cynnwys gwybodaeth gyswllt am gymorth/cyngor i denantiaid mewn trafferthion ariannol yn y llythyrau gosod rhent, ond mae pryder ei bod yn ymddangos mai’r rhain yw’r eithriad i’r rheol.

Barn TPAS CymruMae’n arfer da i Landlordiaid roi gwybodaeth fanwl yn eu llythyrau Rhent yn egluro pam fod rhenti wedi cynyddu a sut y daethpwyd i’r penderfyniad e.e. â phwy yr ymgynghorodd y landlord? ayyb.

Byddai hefyd yn ddoeth i landlordiaid ddarparu manylion cyswllt/gwybodaeth i denantiaid a oedd yn profi anawsterau ariannol.

 
  1. Bod pryderon nad oedd tenantiaid wedi cael gwybod gan eu landlordiaid sut y byddai effaith codiadau rhent (ar denantiaid) yn cael ei monitro dros y flwyddyn.   

Barn TPAS Cymru: Er nad yw’n ofyniad gan Lywodraeth Cymru, byddem yn awgrymu ei bod yn arfer da bod Landlordiaid yn monitro effaith unrhyw gynnydd mewn rhent ar eu tenantiaid. Byddai hyn yn galluogi landlordiaid i gynnig cymorth rhagweithiol i denantiaid a chyfyngu ar lefel yr ôl-ddyledion. Mae'r cyfathrebu dwy ffordd hwn rhwng landlord a thenantiaid hefyd yn helpu i feithrin perthynas ac ymddiriedaeth rhwng y ddau.