Bord Gron ar gyfer Staff Awdurdod Lleol
Dydd Iau, 15 Mai 2025: 11am – 12:30pm
Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y sesiwn ar-lein hon, yn benodol ar gyfer staff Tai Awdurdodau Lleol, i ddarganfod mwy am y cynigion sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad pwysig hwn gan Lywodraeth Cymru a rhannu eich barn i ddylanwadu ar ein hymateb.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol yn cymryd camau prydlon ar beryglon iechyd yn y cartref, gan gynnwys lleithder a llwydni. Mae’n cynnig amserlenni clir i landlordiaid ymchwilio i’r materion hyn a mynd i’r afael â nhw ar ôl iddynt gael eu hadrodd yn ogystal â mecanwaith adrodd i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd.
Bydd TPAS Cymru yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, ac rydym yn awyddus i adlewyrchu barn ein sefydliadau sy'n aelodau o Dai Awdurdod Lleol. I gofrestru eich lle ar y sesiwn rhad ac am ddim hon gweler y manylion archebu isod.
Cyd-destun pellach
Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar gynnig ar gyfer pennu rheol a fydd yn rhan o SATC23 mewn perthynas ag ymateb landlordiaid cymdeithasol i leithder, llwydni a pheryglon eraill, fel y’i diffinnir yn y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS). Y bwriad yw y bydd y rheol yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol gyhoeddi amseroedd ymateb ac adrodd ar berfformiad fel rhan o’r datganiad cydymffurfio â SATC.
Y nod yw gwella canlyniadau i denantiaid drwy osod disgwyliadau gwasanaeth clir sy’n gwella tryloywder ymatebion landlordiaid i leithder a llwydni a pheryglon eraill a sicrhau bod y wybodaeth ar gael i wella craffu ac atebolrwydd drwy gysylltu’r safonau â chydymffurfiaeth SATC23.
Ceir manylion llawn am yr ymgynghoriad yn y ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r sesiwn hon ar gyfer staff o aelodau Awdurdod Lleol TPAS Cymru yn unig
Pethau i'w gwybod:
-
Sesiwn ar-lein dros Zoom yw hwn
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Pennu amserlenni i landlordiaid tai cymdeithasol ymateb i adroddiadau am beryglon sy’n cael effaith sylweddol ar iechyd - Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru
Dyddiad
Dydd Iau
15
Mai
2025, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 14 Mai 2025
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad