Mae ymuno â Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru yn dangos eich ymrwymiad i sicrhau bod Cyfranogiad Tenantiaid yn allweddol i'ch gwasanaeth neu sefydliad.
Dangosodd TPAS Cymru yn gyson y gall ddod â landlordiaid a thenantiaid at ei gilydd, a all eu helpu i ddeall y materion sy'n bwysig i’r naill a’r llall. Rydym yn eich helpu i wneud yn well, yn ogystal â rhoi mynediad i chi at rwydwaith o landlordiaid, tenantiaid a gwirfoddolwyr ymroddedig eraill ar draws y sir.
Mae’r rhannu gwybodaeth a phrofiad hwn yn helpu landlordiaid i fod yn fwy ymatebol i anghenion tenantiaid. Mae'n galluogi tenantiaid i gwrdd â phobl o'r un anian a ffurfio grwpiau cefnogaeth cryf. Yn fwy na dim, mae'n galluogi pob rhanddeiliad i gydweithio i wella gwasanaethau, arbed arian a newid cymunedau er gwell.
Edrychwch ar y manteision o fod yn Aelod Cyswllt o TPAS Cymru. Gall cost aelodaeth fod cyn lleied â £40 y flwyddyn i sefydliadau neu £21 y flwyddyn i unigolion.