This website uses Cookies for an enhanced user experience, social media sharing and Google analytics. We do not store any personal information. To read our cookies policy in full please click here. If you would like to change your cookie settings at any time, please see http://www.aboutcookies.org for more information on how to change your cookie settings or block cookies altogether.

This website uses cookies, to read our cookies policy in full please click here.

Facebook Icon   Twitter Icon   Youtube Icon   Search Icon     Angen siarad? Ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046
Cyngor ar dai | Llais Tenantiaid | Aelodaeth | Mewngofnodi | Cofrestr | English
Angen siarad? Ffoniwch ni ar 029 2023 7303 or 01492 593046 Login | Register
TPAS Cymru Logo
  • ☰ Navigation
  • Cartref
  • Ynghylch
  • Adnoddau
  • Gwasanaethau
  • Cysylltu â ni

AMDANOM NI

Sut yr ydym yn cefnogi tai cymdeithasol yng Nghymru.

ADNODDAU

Ein Canllawiau, Adroddiadau ac Arferion Gorau.

GWASANAETHAU

Hyfforddiant, digwyddiadau ac ymgynghoriaeth i denantiaid a landlordiaid.

CYSYLLTU

Cysylltwch â ni a holwch am ein gwasanaeth i aelodau.

Mae TPAS Cymru yn gweithio ledled Cymru i sicrhau cyfranogiad tenantiaid gwych Dyma beth yr ydym yn ei wneud ac yr ydym yn falch iawn o hyn.
 
Ni allwn roi cyngor a chymorth tai i denantiaid unigol. Fodd bynnag, mae yna wasanaethau o ansawdd da ar draws Cymru sy'n darparu’r gefnogaeth a’r cyngor y byddwch ei angen.

Yn Gyntaf - Pa Fath O Denant Ydych Chi?

Tenant Cymdeithas Tai Neu Awdurdod Lleol (Cyngor)?

Yn gyntaf – siaradwch â’ch landlord
Os ydych yn denant Cymdeithas Tai neu Awdurdod Lleol (Tŷ Cyngor) fe'ch cynghorir i ofyn am gyngor gan eich landlord yn gyntaf drwy'r sianeli arferol. Fel arfer, byddant yn gallu eich helpu gyda'ch ymholiad tai neu denantiaeth ac yn aml mae timau ymroddedig i'ch cefnogi.

Angen cyngor?
Os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl o gael eich troi allan neu yn ansicr o'ch hawliau fel tenant, mae
adran gyngor Shelter yn cynnig yr ystod fwyaf cynhwysfawr o gyngor ar amrywiaeth o faterion tai a thenantiaid yng Nghymru. Mae ganddynt gyfoeth o adnoddau a gwybodaeth ar gael ar eu gwefan yn ogystal â llinell gymorth, cefnogaeth drwy e-bost ac Ap hwylus. Dysgwch fwy am yr Ap trwy glicio’r blwch ar y dde.
Mae Shelter hefyd yn cynnal nifer o sesiynau wyneb yn wyneb er mwyn i chi allu trafod eich materion â rhywun. Darganfyddwch bryd y mae Shelter yn eich ardal
https://sheltercymru.org.uk/get-advice/advice-near-you/

Oes gennych gŵyn, neu'n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg?
Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg, efallai yr hoffech gysylltu ag
Ombwdsmon Cyhoeddus Cymru. Maent yn delio â miloedd o faterion yn ymwneud â thai yng Nghymru ac wedi helpu llawer o denantiaid i ddatrys eu cwynion neu fater.

Eisiau dysgu mwy am yr Ombwdsmon a'i rôl mewn tai? -
Pam na ddarllenwch ein canllaw syml?  

Ydych Chi Yn Denant Sy'n Rhentu yn y Sector Breifat?
 
Yn gyntaf – siaradwch â’ch landlord
Os ydych yn denant sy’n rhentu gan landlord preifat, mae'n aml yn ddefnyddiol i drafod eich materion neu bryderon gyda'ch landlord yn gyntaf trwy'r sianeli arferol. Nid yw landlordiaid da eisiau eiddo gwag ac o bosib, gallent gynnig opsiynau i chi.

Angen rhywfaint o gyngor arbenigol?
Os ydych mewn perygl o gael eich troi allan neu os ydych am gael cyngor ar eich pryderon, gall Shelter Cymru helpu.

Mae adran gyngor Shelter  yn cynnig yr ystod fwyaf cynhwysfawr o gyngor ar amrywiaeth o faterion tai a thenantiaid yng Nghymru. Mae ganddynt gyfoeth o adnoddau a gwybodaeth ar gael ar eu gwefan yn ogystal â llinell gymorth, cefnogaeth drwy e-bost ac Ap hwylus.
Mae Shelter hefyd yn cynnal nifer o sesiynau wyneb yn wyneb er mwyn i chi allu trafod eich materion â rhywun. Darganfyddwch bryd y mae Shelter yn eich ardal
https://sheltercymru.org.uk/get-advice/advice-near-you/

Oes gennych gŵyn, neu'n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg?

Mae yna nifer o opsiynau i gael rhagor o gymorth.

Os oes gennych gŵyn am safon eich tŷ megis os ydych chi'n credu ei fod yn anaddas i fyw ynddo, sŵn, pla, neu ddiogelwch, yna cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol (Cyngor lleol) a fydd efallai yn gallu ymchwilio a gweithredu.

Os oes gennych gŵyn am ymddygiad y Landlord, telerau cytundeb ac ati, yna cysylltwch â
Rhentu Doeth Cymru ac efallai y byddant yn gallu eich helpu.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob landlord yng Nghymru gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, ac os ydynt yn rheoli eu heiddo eu hunain, rhaid iddynt hefyd gael trwydded gan Rhentu Doeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r cynllun cofrestru a thrwyddedu i sicrhau safonau rheoli da ar gyfer eiddo rhent preifat. Dylech ofyn i'ch landlord os ydynt yn cael eu trwyddedu. Gallwch wirio a yw eich landlord wedi'i drwyddedu, neu'r eiddo yr hoffech ei rentu, trwy offeryn ar-lein ar eu gwefan:
https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/ 

Rhentu trwy asiant gosod? Os ydych yn rhentu trwy asiant gosod, ac yn teimlo eich bod yn cael eich trin yn annheg, efallai y byddwch eisiau cysylltu â'r Ombwdsmon Eiddo (TPO). Mae’n cynnig gwasanaeth annibynnol, diduedd, rhad ac am ddim ar gyfer datrys anghydfodau rhwng defnyddwyr ac asiantau eiddo.
https://www.tpos.co.uk/

Mewn Perygl O Ddigartrefedd?

Gall Shelter eich helpu.
https://sheltercymru.org.uk/get-advice/homelessness/
Mae gan y Wallich wefan ardderchog sy'n esbonio rhai o'r dewisiadau cymorth sydd ar gael i chi. https://thewallich.com/get-advice-homelessness/
 
Eisiau Cymryd Mwy O Ran Mewn Hawliau a Materion Tenantiaid Cymru?

Let Down Wales yw'r ymgyrch dros ddiwygio'r sector rhentu preifat yng Nghymru. Maent wedi ymrwymo i wthio am well amodau a hawliau i denantiaid Cymru sy'n rhentu gan landlordiaid preifat
https://letdown.wales/

Pwls Tenantiaid . Eisiau dweud eich dweud am faterion sy'n effeithio ar bolisïau ac arferion tai yng Nghymru a'i effaith ar denantiaid yng Nghymru? Beth am ymuno â'r Pwls Tenantiaid, cymuned arolwg ar-lein sy'n cael ei redeg gan TPAS Cymru. Cefnogir Pwls Tenantiaid gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ein galluogi i ennill barn tenantiaid wrth wraidd polisi tai Cymru. Gall unrhyw fath o denant yng Nghymru ymuno, ac anogir rhentwyr preifat yn arbennig. Dim ond pan fyddwch chi'n ffitio'r proffil y gofynnir i chi lenwi holiadur (byth yn fwy nag unwaith y mis) ac mae'r holl adborth yn cael ei drin yn gyfrinachol.
Ni fyddwn byth yn trosglwyddo'ch manylion i unrhyw un. Fel diolch, fe fydd pob arolwg y byddwch yn eu llenwi a'u dychwelyd yn cael eu rhoi mewn raffl fawr i ennill talebau siopa. Ymunwch heddiw
www.tpas.cymru/ynghylch/pwls-tenantiaid

Yn olaf, os ydych wedi cael profiadau negyddol neu gadarnhaol o dai yng Nghymru ac yn teimlo eich bod am gyfrannu at wneud tai Cymru yn well, pam na wnewch chi gysylltu â TPAS Cymru I drafod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth. Mae nifer o ffyrdd ledled Cymru lle y gall eich llais a'ch profiad helpu, a gallwn eich helpu i ddod o hyd i rywbeth sy'n eich galluogi chi i ddisgleirio.

Cyngor ar Dai

Tudalennau.

Cartref
Ynghylch
Adnoddau
Gwasanaethau
Cysylltu â ni

Newyddion Diweddaraf.

Swydd Wag Newydd: Partner Ymgysylltu a Digwyddiadau (Gogledd Cymru)

Lleisiau’r Sector ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol Newydd (Cymru)

Adnoddau NEWYDD gan TPAS Cymru fel rhan o'n buddiannau i aelodau

Cyfres Newydd: Tenantiaid yn Gwrthod Mynediad – Deall Pam ac Archwilio'r Camau Nesaf

Ymunwch â Grŵp Cynghori Pwls Tenantiaid

Hyfforddiant a Digwyddiadau.

03 Mehefin 2025
Ôl-drafodaeth Pwls Mini Cartrefi mwy diogel ac iachach

04 Mehefin 2025
Cyflwyniad i Gydgynhyrchu - NEWYDD

09 Mehefin 2025
Wythnos Sero Net Flynyddol TPAS Cymru 2025

16 Mehefin 2025
Teithiau TPAS Cymru - Gogledd Cymru

17 Mehefin 2025
Safonau a Chanllawiau Rheoleiddio Newydd: beth fyddant yn ei olygu i Landlordiaid a Thenantiaid yng Nghymru?

Cysylltwch â ni.

Please enter an email address Please enter a valid e-mail address
map o'r safle | hygyrchedd | preifatrwydd | telerau defnyddio