TPAS Annual Report

Rhwydweithiau Tenantiaid a Digwyddiadau Eraill TPAS Cymru.

White Line
Rydym yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar draws Cymru i denantiaid yn unig. Mae'r rhain yn boblogaidd ac yn rhoi cyfle i chi rannu problemau, dod o hyd i atebion a dylanwadu ar bolisi.  

Mae gan TPAS Cymru bob amser amserlen lawn o ddigwyddiadau lle y gall tenantiaid wirioneddol wneud gwahaniaeth a chael dweud eu dweud. Edrychwch ar ein digwyddiadau tenantiaid a hyfforddiant sydd ar y gweill. Mae TPAS Cymru hefyd yn ymfalchïo mewn ymweld â grwpiau tenantiaid, mynychu diwrnodau a digwyddiadau tenantiaid a drefnir gan Landlordiaid, ac ymgysylltu â thenantiaid trwy gyfryngau cymdeithasol a fforymau cyngor/ cymorth. Rydym bob amser yn gwrando ac yn credu bod cyfranogiad tenantiaid a chyd-gynhyrchu wrth wraidd tai gwell yng Nghymru.   Cysylltwch â ni heddiw.
 

Tîm Pwls Tenantiaid TPAS Cymru

White Line
Rydym wedi creu panel bach o denantiaid ymrwymedig yr ydym yn ymgynghori'n rheolaidd â hwy, er mwyn cael mewnbwn a barn ar faterion sy'n effeithio ar dai yng Nghymru. Gelwir y rhain yn “Dîm Pwls” gan eu bod wrth wraidd y sector tai bywiog yng Nghymru. Y rhain yw ein llygaid, ein clustiau a llais ychwanegol i ni yn ein cymunedau.

Mae'r rhan fwyaf o'n sgyrsiau yn digwydd drwy e-bost, offerynnau arolwg a sianelau digidol. Maent yn denantiaid sydd eisiau dweud rhywbeth, ond nad ydynt eisiau cael eu llethu â chyfarfodydd maith, pwyllgorau, gweithdrefnau a thwmpath o bapur. Rydym yn hoffi’r dull hwn, mae'n hyblyg, cost effeithiol a gallwch gysylltu ar eich telerau eich hun pan fydd yn gyfleus i chi.  
Mae aelodau sy'n ymgeisio yn gallu ennill gwobrau am eu cyfraniadau.  Ymunwch a Tenant Pulse yma.

Yn wreiddiol, aethom at bobl yr oeddem yn eu hadnabod, a oedd yn angerddol, cadarnhaol ac nad oeddynt eisiau ymrwymo gormod o amser. Rydym bob amser yn chwilio am denantiaid i ymuno â'r Tîm Pwls, felly cysylltwch â ni. Y cam nesaf yw darparu cymorth a hyfforddiant fel y gall y rhai sy’n awyddus i wneud hynny ymhelaethu eu llais drwy gyfranogi mewn blogio, fideo newyddiaduraeth dinasyddion a sianelau digidol eraill. Rydym hefyd yn gweld budd tymor hir o gydweithio gyda Bwrdd Rheoleiddio . A oes gennych chi ddiddordeb? Fel grwpiau eraill, y cyfan a ofynnwn yw bod eich mewnbwn yn adeiladol a bod yr hyn sydd gennych i'w ddweud yn berthnasol i'r agenda cyfranogiad tenantiaid.
 

Mae TPAS Cymru, trwy roi llais i denantiaid wrth reoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru, yn casglu barn a phryderon tenantiaid ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Rebecca Evans AC, Y Gweinidog dros Dai ac Adfywio.

 

Llywodraeth Cymru, Bwrdd Rheoleiddio argyfer Cymru a Llais Tenantiaid

White Line
Yma yng Nghymru, ceir tîm Rheoleiddio cryf sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru. Yn eu cynorthwyo yn eu gwaith, mae Bwrdd Rheoleiddio annibynnol i Gymru. Fel TPAS Cymru, mae'r Bwrdd Rheoleiddio wedi ymrwymo i roi tenantiaid wrth wraidd rheoleiddio ac egwyddorion o lywodraethu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd . Mae gan TPAS Cymru berthynas dda gyda'r Bwrdd. Noder: Nid yw'r Bwrdd Rheoleiddio ar hyn o bryd yn cynnwys tenantiaid awdurdodau lleol na thenantiaid yn y sector rhentu preifat.

Mae TPAS Cymru wastad yn gofyn am sylwadau tenantiaid i ddod â materion arwyddocaol sy'n effeithio ar denantiaid at sylw'r Bwrdd Rheoleiddio a'r Tîm Rheoleiddio. Mae gennym nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein lle gall tenantiaid o gymdeithasau tai ledled Cymru ddweud eu dweud ac yn bwysicaf oll, gyfrannu tuag at wella tai Cymru.

Beth am ddysgu mwy am rôl y Bwrdd Rheoleiddio Cymru? (fideo gwych 2 funud yn y Gymraeg).

Mae yna hefyd fideo gwych 2 funud arall (yn y Gymraeg) am yr hyn y mae’r Bwrdd Rheoleiddio Cymru yn gweithio arn o ar hyn o bryd.
 

Clywed Llais y Tenantiaid Yn Rheoliad Cymdeithasau Tai yng Nghymru TPAS Tenants Voice 

White Line
Pwy sy’n Rheoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru?

Tîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru sydd yn rheoleiddio cymdeithasau tai cofrestredig yng Nghymru, a elwir hefyd yn 'Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig'. Nod y reoleiddio yw:

diogelu diddordebau tenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth eraill nawr ac yn y dyfodol

sicrhau bod tai cymdeithasol o ansawdd da, o ran cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru, gwasanaethau sy'n diwallu anghenion tenantiaid, gwerth am arian a hyfywedd ariannol

cynnal hyder arianwyr sy'n benthyg i gymdeithasau tai (e.e. banciau a chymdeithasau adeiladu)