Taflen Ffeithiau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar gyfer tenantiaid SRhP
A ydych yn denant preifat yng Ngogledd Cymru yn rhentu gan landlord neu asiant gosod?
Rydym wedi bod yn gweithio gyda 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru (Cyngor Sir Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Wrecsam, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir Gwynedd) i sicrhau bod tenantiaid yn teimlo eu bod yn cael eu clywed ac yn cael eu hysbysu.
Ymgynghorwyd â thenantiaid ynghylch eu barn ar ein Taflen Ffeithiau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i sicrhau ei bod yn cynnwys y wybodaeth yr oeddent eisiau ei gael, ac rydym bellach yn falch o'i chyhoeddi.