A ydych yn aelod o Grŵp Tenantiaid yn ardal Caerdydd neu Dde Cymru, yn gweithio gyda’ch landlord i sicrhau bod llais y tenant yn cael ei glywed?  

Rhwydwaith Tenantiaid ar gyfer Aelodau Grŵp Tenantiaid (De)

Dydd Mercher 4 Hydref, 11am-1pm

Lleoliad: Adeilad Unite,  1 Heol y Gadeirlan CF11 9SD

Sesiwn am ddim i aelodau TPAS Cymru yn unig

A ydych yn aelod o Grŵp Tenantiaid yn ardal Caerdydd neu Dde Cymru, yn gweithio gyda’ch landlord i sicrhau bod llais y tenant yn cael ei glywed?  e.e. Panel Preswylwyr, Pwyllgor Tenantiaid, Panel Craffu, Grŵp Monitro?

Os ydych chi, gwnewch yn siŵr bod eich grŵp yn rhan o’n digwyddiad rhwydwaith wyneb yn wyneb newydd i glywed beth mae grwpiau tenantiaid eraill yn ei wneud a sut maen nhw’n gweithredu. Bydd yn gyfle gwych i gwrdd â thenantiaid eraill, i rannu syniadau ac i ddysgu gan eraill.
 
Er mwyn helpu i reoli niferoedd ac i sicrhau bod cymysgedd o grwpiau landlordiaid yn mynychu, rydym yn y lle cyntaf yn gwahodd hyd at 2 gynrychiolydd tenantiaid o bob grŵp i fynychu'r Rhwydwaith arbennig hwn ac i rannu'r hyn y mae eich grŵp yn ei wneud. Darperir lluniaeth i'r rhai sy'n mynychu.
 

Dyma gyfle am sgwrs anffurfiol, i rannu beth mae eich grŵp wedi ei wneud neu wedi'i gynllunio, ac i glywed beth mae grwpiau Tenantiaid eraill yn ei wneud yn Ne Cymru.

I archebu eich lle, e-bostiwch [email protected]

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Rhwydwaith Tenantiaid ar gyfer Aelodau Grŵp Tenantiaid (De)

Dyddiad

Dydd Mercher 04 Hydref 2023, 11:00 - 13:00

Archebu Ar gael Tan

02 Hydref 2023

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Eleanor Speer

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Unite Building

Cyfeiriad y Lleoliad

The Unite Building
1 Cathedral Road
South Glamorgan
Cardiff
CF11 9SD

029 2023 7303

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X