Cynhadledd Undydd Cymru Gyfan
6 July 2022 – Gwesty Jury’s Inn, Caerdydd
10.00am – 3.30pm. (Cofrestru, te a choffi o 9.30. Darperir rhagor o luniaeth yn ystod y dydd a chinio bwffe hefyd)
Croeso’n ôl i’n cynhadledd undydd wyneb yn wyneb sy’n addas ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn creu cymunedau gwych: gwirfoddolwyr a staff.
Bydd y gynhadledd hanfodol hon yn edrych ar esiamplau o arferion gorau cyfredol mewn ymagweddau i ‘Greu Cymunedau Gwych’. Bydd y digwyddiad yn ysgogi, ysbrydoli a hysbysu pawb sy'n mynychu.
Bydd yr amserlen orlawn yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig ac astudiaethau achos ymarferol go iawn o gymunedau, y sector tai a thu hwnt, wedi’u dylunio i danio syniadau a sgyrsiau.
Mae cymunedau a chymdogion wedi bod yn bwysicach nag erioed yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, felly ymunwch â ni i ddarganfod sut y gallwn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd ac ail ennyn brwdfrydedd cymunedau.
Mae’r digwyddiad hanfodol hwn yn hanfodol i landlordiaid cymdeithasol, preswylwyr, sefydliadau trydydd sector, gwirfoddolwyr cymunedol, asiantaethau statudol, elusennau, a grwpiau gwirfoddol felly archebwch le nawr.
I archebu, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen archebu hon* neu defnyddiwch y system archebu ar-lein isod.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni: 01492 593046 / 02920 237303 [email protected]
*Byddwn yn cynnal ein Seremoni Gwobrau Arfer Da Blynyddol gyda'r nos ac felly mae opsiwn arbed ar y ffurflen archebu i'r rhai sy'n dymuno mynychu'r ddau ddigwyddiad. Mwy o fanylion am ein Gwobrau yma
-
Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW
-
Nid yw’r opsiynau yn cynnwys llety dros nos. Rydym wedi negodi pris TPAS Cymru arbennig o £90 y noson ar gyfer y sawl sy'n dymuno aros yn y gwesty (pris arferol yw £120) ond mae angen i chi archebu hyn yn uniongyrchol â’r gwesty – Ffôn: 0292 078 5590 a nodi eich bod yn dod i ddigwyddiad TPAS Cymru
-
Mae’r *disgownt pellter yn berthnasol i’r sefydliadau sydd wedi eu lleoli 50 milltir neu fwy i ffwrdd o’r lleoliad
-
NI ALL TPAS Cymru dderbyn archebion dros dro.
-
Mae angen cadarnhad ysgrifenedig ar gyfer pob canslad. Bydd cansladau a dderbynnir cyn y dyddiad cau o 29 Mehefin 2022 yn cael eu had-dalu, minws ffi weinyddu o £30.00. Ni fydd unrhyw ad-daliadau ar ôl y dyddiad hwn.
-
Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu'r gynhadledd yn atebol i dalu yn llawn oni bai ein bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig erbyn y dyddiad canslo.
-
Bydd unrhyw newidiadau, megis enwau, a wneir i archebion ar ôl 29 Mehefin 2022 yn derbyn ffi weinyddol o £15.00 + TAW fesul newid.
-
Efallai y bydd rhaid i TPAS Cymru ganslo'r digwyddiad hwn. Yn yr achos yma, byddwn yn ad-dalu unrhyw daliadau a dderbyniwyd. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech fynd iddynt o ganlyniad i'r canslad.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Creu Cymunedau Gwych
Dyddiad
Dydd Mercher
06
Gorffennaf
2022, 10:00 - 15:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 29 Mehefin 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Ymgysylltu â'r gymuned
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Leonardo Hotel Cardiff (formerly Jury's Inn)
Cyfeiriad y Lleoliad
1 Park Place
Cardiff
CF10 3DN
0292 078 5590