Dydd Mawrth, 24 Hydref 2023: 10.00am – 12.00pm
Mae’r gweithdy hyfforddi rhyngweithiol hwn wedi’i anelu at denantiaid a phreswylwyr cymdeithasau tai sydd â diddordeb mewn dod yn aelod bwrdd neu tenantiaid a staff sydd eisiau gwybod mwy am y rôl.
Ei nod yw darparu gwybodaeth a chyngor am y rôl, pwrpas a strwythurau llywodraethu cymdeithas dai, y sgiliau a’r ymddygiad sydd eu hangen yn ogystal ag egluro rôl tenantiaid ar Fyrddau.
Bydd yn archwilio'n fyr:
-
Cymdeithasau Tai - trosolwg o ddiben a strwythurau
-
Rôl y bwrdd ac aelodau'r bwrdd
-
Tenantiaid ar fyrddau - chwalu rhai mythau
-
Bod ar fwrdd - sgiliau, disgwyliadau, ymddygiad, safonau proffesiynol Heriau presennol sy'n wynebu Cymdeithasau Tai a byrddau yng Nghymru
-
Y camau nesaf - dod yn aelod bwrdd
Adborth o sesiynau blaenorol:
“Fel tenant, mae’n bendant wedi helpu gyda fy nealltwriaeth o’r rôl”
“Llawer o wybodaeth ddefnyddiol a gyflwynwyd mewn ffordd anffurfiol a hawdd ei deall”
“Sesiwn hynod bleserus ac atyniadol, aeth i lawr yn dda iawn!”
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn – mae'r gweithdy hwn ar gyfer tenantiaid, preswylwyr a staff sy'n ymwneud â llywodraethu ac ymgysylltu â thenantiaid ac aelodau presennol y bwrdd sy'n chwilio am sesiwn gloywi.
Mae'r sesiwn hon hefyd ar gael yn fewnol - cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb [email protected]
Cost
-
Tenantiad: £39+TAW
-
Staff/Bwrdd (aelodau): £59+TAW
-
Staff/Bwrdd (pawb arall): £119+TAW
Archebwch drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZclceqsqzIjGNy3Xo836NbmCuLpPhZQAf6T
Pethau i'w gwybod
-
Gweithdy hyfforddi rhyngweithiol ar-lein yw hwn trwy Zoom
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
-
Mae'r gyfradd cynrychiolwyr ar gyfer un person nid archeb grŵp - mae angen i bob mynychwr gofrestru'n unigol.
Hwylusydd y sesiwn – David Lloyd
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Bod yn Aelod Bwrdd: cyflwyniad
Dyddiad
Dydd Mawrth
24
Hydref
2023, 10:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
23 Hydref 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad