20 Mehefin 2023: 10am – 11:30am
Gall cynnwys tenantiaid wrth recriwtio a hyfforddi staff fod yn hanfodol i sicrhau bod gan sefydliadau landlordiaid y diwylliant, yr agweddau a’r sgiliau cywir yn eu lle i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion tenantiaid.
Yn ystod y sesiwn hon bydd TPAS Cymru yn rhannu ac yn archwilio ffyrdd ymarferol y gall sefydliadau gynnwys tenantiaid ar lefelau amrywiol o recriwtio a hyfforddi staff.
Bydd y sesiwn yn eich helpu i nodi ffyrdd newydd o gryfhau eich prosesau recriwtio a hyfforddi ac ehangu ac amrywio eich cynnig ymgysylltu â thenantiaid.

Yn ymuno â ni hefyd bydd Sioned Hughes o Altair a fydd yn rhannu rhai syniadau ynghylch cynnwys tenantiaid yn y broses o recriwtio staff y Tîm Gweithredol.
Mae’r sesiwn hon yn rhad ac am ddim ac yn arbennig ar gyfer sefydliadau sy’n aelodau o TPAS Cymru.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn?
Mae'r sesiwn wedi'i hanelu at staff a thenantiaid. Bydd yn arbennig o fuddiol i staff sy'n gyfrifol am recriwtio a hyfforddi staff
Archebwch eich lle trwy'r ddolen Zoom hon: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZAofuygqz0iGtI9w1tNDoN95UkAzJ2vZr4s
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Cynnwys tenantiaid wrth recriwtio a hyfforddi staff: archwilio opsiynau a syniadau
Dyddiad
Dydd Mawrth
20
Mehefin
2023, 10:00 - 11:33
Archebu Ar gael Tan
19 Mehefin 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad