Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn ar daflen ffeithiau newydd a luniwyd ar eich cyfer. Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM sy’n agored i holl denantiaid rhentu preifat ar draws Gogledd Cymru a bydd yn cael ei gynnal dros Zoom.
Mae 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn dod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed ar draws y sector rhentu preifat. Rydym yn cynnal fforwm tenantiaid awr o hyd i glywed eich lleisiau ar yr hyn rydych chi'n meddwl yw'r wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch chi fel tenant.
Yr awdurdodau lleol dan sylw yw - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Gyda’n gilydd, rydym wedi creu taflen ffeithiau ar y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) newydd gyda gwybodaeth allweddol i denantiaid – ac rydym nawr eisiau gwybod eich barn.
Os byddai’n well gennych rannu eich llais ar-lein yn lle mynychu’r Fforwm Tenantiaid, rydym wedi sefydlu ffurflen adborth ddienw y gallwch ei defnyddio.
Gallwch gofrestru i sicrhau eich lle am ddim ar gyfer ein Fforwm Tenantiaid - defnyddiwch y ddolen isod