Dydd Mercher, 21 Mehefin 2024: 10.30am – 12.30pm
Ymunwch â ni ar gyfer ein rhwydwaith ar-lein ar gyfer staff sy'n gweithio mewn Tai â Chymorth. Mae gennym ni amrywiaeth wych o siaradwyr i chi, a fydd yn rhannu arfer da a gwybodaeth a phrofiad ymarferol.
Eve Exley - Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf
Clywch sut mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf wedi llwyddo i ddod o hyd i ffordd i denantiaid ag anabledd dysgu gael ‘llais yn yr ystafell fwrdd’. Bydd eu Cydlynydd Iechyd a Lles, Eve, yn siarad am sut maent wedi sefydlu eu Grŵp Cynghori Tenantiaid newydd. Er ei bod yn ddyddiau cynnar, bydd Eve yn trafod sut mae’r grŵp dan arweiniad tenantiaid wedi bod hyd yn hyn a beth yw eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
Siarter Hawliau
Bydd Thea Raisbeck Pennaeth Ymchwil ac Arfer Gorau yn Spring Housing a Chymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Birmingham ac Eydritt Joensen, Pennaeth Cynorthwyol Tai yn Spring Housing ac Arweinydd Arfer Gorau ar gyfer Siarter Hawliau cwsmeriaid ar gyfer pobl sy'n byw mewn llety â chymorth a rennir yn Birmingham, yn trafod y ‘Siarter Hawliau’ – prosiect a gydnabyddir yn genedlaethol a gynhyrchwyd ar y cyd â phreswylwyr tai â chymorth. Bydd Thea ac Eydritt yn trafod sut a pham y crëwyd y Siarter, eu profiadau o gynnwys preswylwyr tai â chymorth, a sut mae’r Siarter ers hynny wedi’i hymgorffori mewn amrywiaeth o amgylcheddau tai â chymorth.
Pwy ddylai fynychu? Unrhyw aelod o staff sy'n gweithio mewn tai â chymorth.
Cost: Am ddim ac yn unigryw i aelodau TPAS Cymru yn unig.
Pethau i'w gwybod:
-
Gweminar ar-lein dros Zoom fydd hwn
-
Ni fydd y sesiwn yn cae ei recordio
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Staff Tai â Chymorth 2024
Dyddiad
Dydd Mercher
12
Mehefin
2024, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad