12 Hydref 2023, 10:30am - 12:30pm
Gwneud ein cymunedau yn fwy diogel, gyda'n gilydd.
Rhannu arfer da gyda’r nod o wneud ein cymunedau’n fwy diogel, gyda’n gilydd.
Ymunwch â ni ar gyfer yr uwchgynhadledd ymddygiad gwrthgymdeithasol hanfodol hon am gyfle i ni uno fel sector tai a rhannu rhai o’r dulliau, ymchwil, polisi ac arferion arloesol yn nhai Cymru o amgylch YG.
Dro ar ôl tro cawn ein hatgoffa fel sector o effaith ddinistriol YGG ar denantiaid a chymunedau yng Nghymru, er gwaethaf gwaith caled landlordiaid i fynd i’r afael â sefyllfaoedd anodd yn ein cymunedau.
Yn ein Harolwg Blynyddol 2022 o denantiaid yng Nghymru, cafodd ymddygiad gwrthgymdeithasol ei raddio fel y peth pwysicaf y byddai tenantiaid yn ei newid yn eu cymuned, gyda 15% o denantiaid yn dweud eu bod yn dymuno symud oherwydd bod ganddynt YG yn eu cymuned.
Felly, sut gallwn ni fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau gyda’n gilydd? Beth sydd nesaf i’r sector?
Ymunwch â ni i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr arbenigol o bob rhan o’r sector a fydd yn rhannu amrywiol ddulliau, strategaethau a phrofiadau o bob rhan o Gymru.
Wrth i landlordiaid a thenantiaid ledled Cymru adrodd am yr achosion mwyaf erioed o ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith eu cymunedau, gyda’n gilydd, byddwn yn clywed y diweddaraf am sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i gadw holl gymunedau Cymru yn ddiogel, yn hapus ac yn gydlynol.
Siaradwyr wedi eu cadarnhau:

Jonathan Clode – Cydlynydd Prosiect Atal Digartrefedd, Shelter Cymru

Jim Nixon – Cyfarwyddwr Diogelwch Cymunedol a Jonathan Williams – Cyfarwyddwr Gwerthiant, RHE Global
Brendan McWhinnie - Rheolwr Tai Dwyrain, ClwydAlyn
.png)
Arweinydd Gwasanaeth (Tai a Phrofiad Cwsmer), Bron Afon
David Wilton - Prif Weithredwr a Eleanor Speer - Swyddog Ymgysylltu, TPAS Cymru
Rhagor o siaradwyr i'w cadarnhau'n fuan
Cost i fynychu (fesul person nid fesul grwp):
-
Tenantiaid: £29+TAW
-
Staff (Aelodau): £59+TAW
-
Pawb Arall: £89+TAW
Noddir y digwyddiad gan The Noise App
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_fhiKfcE_TT6sxvVwMLiEyg#/registration
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Uwchgynhadledd Arfer Da Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2023
Dyddiad
Dydd Iau
12
Hydref
2023, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
09 Hydref 2023
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad