Llywodraethu a Llais y Tenant: adolygu a dilysu
Modiwl ASYT Newydd
Mae gwasanaeth cymorth a dilysu cenedlaethol ASYT (Asesiad Safonau Ymgysylltu â Thenantiaid) gan TPAS Cymru yn rhoi cyngor a thystiolaeth i landlordiaid cymdeithasol i’ch helpu i ddangos ymrwymiad eich sefydliad i ymgysylltiad a llais tenantiaid.
Rydym bellach wedi datblygu Modiwl Llywodraethu annibynnol newydd ASYT sy'n canolbwyntio ar lais y tenant mewn llywodraethu.
Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu eich sefydliad i adolygu ac asesu eich trefniadau llywodraethu presennol mewn perthynas â llais y tenant ar lefel bwrdd yn annibynnol, i ystyried arfer da ac i ddangos sut rydych yn bodloni ‘Safonau Rheoleiddio’ Llywodraeth Cymru.
Gallwn hefyd ddarparu amrywiaeth o argymhellion i’ch helpu i archwilio ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys clywed lleisiau ystod amrywiol o denantiaid ar lefel lywodraethu.

Felly pam ddylai eich sefydliad gynnal y gwasanaeth dilysu ac asesu hwn?
Bydd yr asesiad yn:
-
Eich helpu i adolygu eich sefyllfa bresennol o ran sicrhau cyfranogiad tenantiaid mewn llywodraethu a nodi cyfleoedd i wella.
-
Darparu tystiolaeth annibynnol i ddangos eich bod yn bodloni neu’n gweithio tuag at fodloni disgwyliadau a Safonau Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru.
-
Eich helpu i amlygu meysydd o arfer da yn eich sefydliad.
-
Dangos eich ymrwymiad i gynnwys tenantiaid mewn llywodraethu.
Am ragor o wybodaeth, cysyllter â:
David Lloyd, Cyfarwyddwr Rhaglen: [email protected]