Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon.
Pwy ydym ni?
Mae TPAS Cymru yn sefydliad di-elw, wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Ers 35 mlynedd, rydym wedi gwneud gwaith gwych ledled Cymru i ddatblygu ymgysylltu effeithiol â thenantiaid a llais tenantiaid ym maes tai drwy hyfforddiant, cymorth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Rydyn ni'n caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n falch o'n gwaith.
Cefndir y rôl hon
Ledled Cymru, mae 222,000 o aelwydydd tai cymdeithasol (Cyngor a Chymdeithasau Tai) a 230,000 o rentwyr preifat. Mae llawer yn cael trafferth gyda'r argyfwng cost-byw gan gynnwys biliau ynni. Mae gan Lywodraeth Cymru a Landlordiaid Cymdeithasol gynlluniau uchelgeisiol i wneud tai yn fwy ynni-effeithlon, yn lleihau allyriadau carbon ac yn rhatach i’w rhedeg.
Yn TPAS Cymru, rydym am i lais a phrofiadau tenantiaid fod wrth wraidd y cynlluniau hynny a chael eu clywed wrth wneud penderfyniadau.
Dyma lle mae'r rôl bwysig hon yn ffitio i mewn: Swyddog Ymgysylltu Sero Net
Fel Swyddog Ymgysylltu (rhan o dîm cyflawni profiadol a chefnogol), byddwch yn arwain ac yn cyflawni profiad tenantiaid a phreswylwyr o agenda sero net/cynhesrwydd fforddiadwy yn y sector tai yng Nghymru. Mae'r ffocws ar y defnyddiwr, y bobl sy'n byw yn eu cartrefi, eu profiadau a sut mae landlordiaid a Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â nhw. Rydym eisiau nodi arferion gorau a sicrhau bod pawb yn elwa ar yr agenda datgarboneiddio hon. Byddwch yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth, grwpiau ffocws, yn creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol, yn creu astudiaethau achos ac yn dylanwadu ar landlordiaid a’r Llywodraeth. Nid oes rhaid ichi fod yn arbenigwr technegol, ond bod ag ymrwymiad cryf i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed.
Math o gontract: Parhaol
Oriau: 5 diwrnod/35 awr yr wythnos
Cyflog: £34,000
Lleoliad: Gwaith hybrid wedi'i leoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd gyda pheth teithio.
Mae gennym lwfans gwyliau da iawn, a chyfraniad pensiwn o 5%, ac rydym yn gwneud ein gorau i gynnwys hyblygrwydd mewn arferion gwaith.
Dyma'r Swydd Ddisgrifiad a manylion am y rôl
Yn ogystal, dyma drosolwg 1 dudalen o'r hyn y mae'r rôl yn ei gynnwys yn nodweddiadol
Mae TPAS Cymru yn sefydliad Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Rydym yn cefnogi ac yn annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth.
Poeni nad ydych chi'n cwrdd â'r Holl Feini Prawf? Ymgeisiwch beth bynnag!!
Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud cais am swydd anarferol fel hon, oherwydd nid ydynt yn bodloni pob rhan o'r swydd ddisgrifiad. Nid ydym yn bobl ticio blychau, rydym eisiau gwybod beth y gallwch ei gynnig a dylai ein cais adlewyrchu hynny. Os oes gennych chi'r agwedd gywir a'r sgiliau sylfaenol, rydyn ni'n cynnig digon o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i ddatblygu i'r rôl.
DYDDIADAU ALLWEDDOL
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, Dydd Iau 28 Medi
-
Dyddiad cyfweliadau: rhwng 2 – 6 Hydref
Diddordeb? Yn gyntaf darllenwch y swydd ddisgrifiad uchod, ac yna edrychwch ar ein gwefan i ddysgu mwy am bwy ydym ni a beth rydyn ni'n ei gredu.
Edrychwch ar ein sianel cyfryngau cymdeithasol a YouTube am wybodaeth am ein gwaith.
Barod i ymgeisio?
-
Lawrlwythwch y ffurflen gais a'r ffurflen cyfle cyfartal.
-
Anfonwch y ddau yn ôl gyda CV at [email protected]erbyn 5pm, dydd Iau 28 Medi.
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod y rôl yn fwy manwl, mae ein Prif Weithredwr, David Wilton yn agored i sgwrs gan ei fod yn angerddol iawn am Sero Net. Angonwch e-bost ato i [email protected] a threfnwch amser ar gyfer galwad.
Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.