Mae David yn sgwrsio â Ross Thomas, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Tai Pawb, am fis Hanes LHDTC+ ac yn dod i wybod am rai o'r materion sy'n ymwneud â thai y mae'r gymuned LHDTC+ yn eu hwynebu.

 

David yn sgwrsio â Ross Thomas, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Tai Pawb, am fis Hanes LHDTC+ ac yn dod i wybod am rai o'r materion sy'n ymwneud â thai y mae'r gymuned LHDTC+ yn eu hwynebu. 

Neges ddilynol gan Ross:

Ers ffilmio’r fideo hwn, rydym wedi gweld euogfarn ymosodwyr Dr Gary Jenkins yng Nghaerdydd yn dilyn ei lofruddiaeth erchyll. Mae wedi tynnu sylw at droseddau casineb a bod rhai pobl LHDT+ yn teimlo’n anniogel (“cam yn ôl” yn ymadrodd rydw i wedi clywed yn cael ei ddefnyddio) – ond wrth gynnal yr wylnos yn dilyn yr euogfarn hon, mae’n dangos hefyd bod yna benderfyniad ymhlith y gymuned – yn cynnwys cyd-droseddwyr– y gall pobl ddod at ei gilydd a dweud “Na!”

Wrth roi buddugoliaeth y frwydr caled o’r neilltu, nid yw hynny’n golygu o gwbl nad yw pobl LHDT+ yn wynebu rhwystrau; ymhell iawn ohoni!

Mae cipolwg cyflym ar ffigurau troseddau casineb, tystiolaeth anecdotaidd o dangofnodi troseddau casineb, a straeon erchyll sydd wedi ymddangos yn y cyfryngau a’r wasg yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, yn dangos yn amlwg mai rhagfarn yw’r cymhelliad dros drosedd. Roedd y ffaith bod awdurdod uchel ei barch mewn achos llofruddiaeth proffil uchel diweddar wedi awgrymu bod cyfeiriadedd rhywiol y dioddefwr yn rhannol ar fai, yn fwy brawychus fyth. Ar ben hynny, mae sylw wedi'i roi ar ein ffrindiau yn y gymuned drawsrywiol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae casineb a rhagfarn yn fyw iawn, ond mater i ni fel bodau dynol teilwng yw ei alw allan - ei herio - lle bynnag y gwelwn.