Mae’r Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn safon ledled Cymru a osodwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer pob cartref sy'n cael ei osod i denantiaid mewn tai cymdeithasol (fel Cynghorau a Chymdeithasau Tai). Dechreuodd...Darllen mwy

Safon Ansawdd Tai Cymru - SATC (Agenda: Rhifyn 5) 

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord 

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y rhifyn hwn yn canolbwyntio ar Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Mae’r Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn safon ledled Cymru a osodwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer pob cartref sy'n cael ei osod i denantiaid mewn tai cymdeithasol (fel Cynghorau a Chymdeithasau Tai). Dechreuodd yn 2002 ac mae'n nodi'r ansawdd y mae LlC yn disgwyl i landlordiaid tai cymdeithasol ei gyflawni yn y cartrefi y maent yn eu darparu.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthuso / asesu’r cynllun yn ystod 2020/21 ac â diddordeb mewn clywed barn tenantiaid, a’u profiadau, o’r SATC wrth rentu o’r sector Tai Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y safbwyntiau hyn yn helpu i ddiweddaru / llunio sut olwg fydd ar SATC yn y dyfodol.

Y manylion

Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yw safon ansawdd tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Nod SATC yw sicrhau bod yr holl anheddau / cartrefi o ansawdd da ac yn addas ar gyfer anghenion preswylwyr presennol a phreswylwyr y dyfodol.

Mae'r SATC yn mynnu bod yr holl dai cymdeithasol:

1. fod mewn cyflwr da  

2. bod yn saff ac yn ddiogel

3. cael eu gwresogi'n ddigonol, bod yn effeithlon o ran tanwydd a bod wedi'u hinswleiddio'n dda

4. cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes

5. bod wedi’u rheoli’n dda h.y. yn deg ac effeithiol

6. bod wedi'u lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel

7. Cyn belled ag y bo modd, yn addas ar gyfer gofynion penodol yr aelwyd (e.e. anableddau penodol)

Mae gan y SATC 42 elfen / rhan unigol o dan y 7 pennawd uchod. 

A ddylai pob cartref tai cymdeithasol gyrraedd y safon?

Mae'r SATC yn berthnasol i bob tŷ cymdeithasol, ac felly mae angen i bob landlord cymdeithasol gyflawni'r targedau hyn. Mae cydymffurfiad llawn (yn cwrdd â thelerau'r safon yn llwyr) yn cyfeirio at anheddau / cartrefi lle mae'r SATC yn cael ei gyflawni / gyrraedd ar gyfer yr holl 42 elfen / rhan unigol.

Fodd bynnag, gall fod sefyllfaoedd lle nad yw'n bosibl cyflawni / cwrdd â'r safon ar gyfer elfen unigol. Gelwir y rhain yn Fethiannau Derbyniol. Gall sefyllfaoedd o'r fath gynnwys: cost neu amseriad y gwaith; preswylwyr yn dewis peidio â chael y gwaith wedi'i wneud; neu, lle na fydd yn ymarferol neu'n bosibl gwneud y gwaith. Yn yr achosion hyn, gall y landlordiaid gofnodi un elfen neu fwy fel ‘methiant derbyniol’. Lle mae gan annedd / cartref un neu fwy o fethiannau derbyniol ond bod yr holl elfennau eraill yn cydymffurfio (cwrdd â'r safonau) ystyrir bod yr annedd / cartref yn cwrdd â'r safonau sy'n ddarostyngedig i / yn dibynnu ar fethiannau derbyniol.

Cwestiynau i denantiaid ofyn i’w landlord:

·       A yw holl gartrefi'r landlord yn cwrdd â'r SATC?

·       Beth yw'r prif resymau pam nad yw rhai cartrefi efallai'n cwrdd â'r SATC yn llawn? (y cyfeirir atynt fel methiannau derbyniol)).

·       Sut mae'r landlord yn sicrhau bod cartrefi yn cael eu cadw / cynnal i safonau yn y SATC?

·       Sut y telir am y gwaith gwella SATC? O ble mae'r arian yn dod?

·       Sut mae'r landlord yn cefnogi tenantiaid a allai fod â phryderon neu sy'n amharod i gael gwaith oherwydd aflonyddwch ac ati?

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich sgyrsiau â'ch landlordiaid. Felly e-bostiwch [email protected]