Peidiwch â methu ein Sbotolau ar Rwydwaith Tai Awdurdodau Lleol – digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim i’n haelodau awdurdod lleol (ALl), sy’n agored i staff, tenantiaid ac aelodau etholedig.

 

Sbotolau ar Dai Awdurdod Lleol – Rhwydwaith ar-lein

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024: 10am – 12noon

Peidiwch â methu ein Sbotolau ar Rwydwaith Tai Awdurdodau Lleol – digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim i’n haelodau awdurdod lleol (ALl), sy’n agored i staff, tenantiaid ac aelodau etholedig.

Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar rannu’r diweddariadau diweddaraf ar yr hyn sy’n digwydd mewn tai ALl ar draws Cymru ac yn cynnwys clywed gan gymysgedd gwych o siaradwyr gwadd. Bydd cyfleoedd hefyd i rwydweithio, rhannu arfer a dysgu gan eraill.

Mae siaradwyr gwadd a gadarnhawyd yn cynnwys:

Robin Staines – Llywodraeth Cymru

Bydd Robin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Graddfa a Chyflymder Llywodraeth Cymru, sy’n cynorthwyo ac yn cefnogi awdurdodau lleol i adeiladu tai cymdeithasol newydd.

Jim McKirdle – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Bydd Jim yn rhoi diweddariad ar yr holl newyddion sy'n berthnasol i Adrannau Tai Awdurdodau Lleol

Gaynor Toft, Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd yng Nghyngor Sir Penfro

Bydd Gaynor yn rhannu mewnwelediad ac arfer da ynghylch sut mae Cyngor Sir Penfro yn cydbwyso’r gofynion i adeiladu stoc newydd wrth gynnal y stoc bresennol a chynllunio ar gyfer Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023 newydd.

Ar gyfer pwy mae'r sesiwn – mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer staff yr ALl, tenantiaid ac aelodau etholedig.

Mae hon yn sesiwn ar-lein rhad ac am ddim yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru.

Sylwch - mae lleoedd yn brin ar gyfer y digwyddiad hwn ac felly fe'ch cynghorir i archebu'n gynnar trwy'r ddolen Zoom hon: 

https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZ0pdOCgqjssGdE_Rj5-SCnhyJHZ3LQ3utGl

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Sbotolau ar Dai Awdurdod Lleol – Rhwydwaith ar-lein

Dyddiad

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024, 10:00 - 12:00

Archebu Ar gael Tan

22 Ebrill 2024

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X