Dydd Mercher 25 Mai: 10.30 – 12.30pm
Sesiwn hyfforddi ryngweithiol gydag arbenigwr blaenllaw ar Graffu yn y DU, Dr Dave Mckenna
Mae’r sesiwn ryngweithiol hon ar gyfer tenantiaid/aelodau bwrdd sy’n ymwneud â chyfarfodydd bwrdd a/neu graffu a bydd yn edrych ar ffyrdd o fod yn fwy adeiladol a chynhyrchiol mewn cyfarfodydd. Bydd awgrymiadau ymarferol yn cael eu rhannu i'ch helpu i feddwl am yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud yn dda a pha bethau newydd y gallech roi cynnig arnynt.
Mae Dave yn defnyddio doethineb arbenigwyr sgwrsio fel hyfforddwyr, hwyluswyr a chyfryngwyr er mwyn darparu awgrymiadau, technegau a fframweithiau y gellir eu defnyddio a’u rhannu’n hawdd.
Bydd y sesiwn yn gymysgedd o gyflwyniadau byr a gwaith mewn grwpiau bach fel y gallwch ddysgu oddi wrth gyfranogwyr eraill a chael cyfle i roi cynnig ar bethau.
Bydd pynciau allweddol yn cynnwys:
-
Her adeiladol a chefnogaeth adeiladol
-
Fformiwla syml ar gyfer gwneud cyfraniad
-
Pa gwestiwn i'w ddefnyddio a phryd
-
Syniadau ar gyfer creu sgyrsiau cynhyrchiol mewn cyfarfodydd
Cost:
Tenantiaid a Staff (aelodau): £59 + TAW
Pawb Arall: £89 + TAW
Archebwch eich lle drwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZUtd-CsqjsrHt0VWqDBKhoxQYvLt1XFT1L6
Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i c
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Sgiliau Holi Adeiladol ar gyfer Craffu/Byrddau
Dyddiad
Dydd Mercher
25
Mai
2022, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 19 Mai 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad