Dydd Iau, 22 Ionawr 2026: 11am – 12noon
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y Rheol Ymateb i Beryglon newydd, y gellir ei gweld yma, mae TPAS Cymru yn cynnal sesiwn Bord Gron ar-lein fer ar gyfer staff o'n sefydliadau aelodau Tai Awdurdod Lleol yn unig.
Mae'r sesiwn am ddim hon yn gyfle i Awurdodau Lleol rannu meddyliau a chynlluniau cychwynnol ynghylch gweithredu'r Rheol newydd. Bydd hefyd yn eich galluogi i rwydweithio, gofyn cwestiynau a rhannu dulliau ac ymarfer gyda chynrychiolwyr eraill sy'n bresennol.
-
Sut mae eich sefydliad yn paratoi ar gyfer cyflwyno ‘Rheol’ newydd arfaethedig?
-
A yw eich sefydliad eisoes yn bodloni rhai o’r gofynion newydd?
-
Beth allai fod yn rhai o’r ‘pwyntiau cyfyng’ i Awdurdodau Lleol wrth weithredu’r Rheol newydd?
Byddwch yn rhan o'r sesiwn Bord Gron hon i siarad yn agored gyda chyfoedion i rannu arfer a dysgu gan eraill, ac i archwilio beth fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i denantiaid.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn? – Mae'r sesiwn Bord Gron hon ar gyfer staff sydd â chyfrifoldeb am feysydd cysylltiedig fel rheoli asedau, atgyweiriadau, diogelwch adeiladau, cydymffurfiaeth a gwella gwasanaethau.
Sesiwn ar-lein am ddim yw hon ar gyfer staff o sefydliadau aelodau Tai Awdurdodau Lleol TPAS Cymru yn unig.
Cost: Am ddim i aelodau TPAS Cymru
Ble: Ar-lein dros Zoom
Dim recordiad: Er mwyn annog sgwrs agored, ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio.
Gallai gweithred fach nawr – cofrestru – arwain at syniadau ffres, cysylltiadau a gwelliannau a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Bydd y sesiwn yn cael ei hwyluso gan David Lloyd, Cyfarwyddwr Rhaglen, TPAS Cymru

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Bord Gron ‘Rheol’ Peryglon - ar gyfer Staff Tai Awdurdodau Lleol
Dyddiad
Dydd Iau
22
Ionawr
2026, 11:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 22 Ionawr 2026
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad