Ydych chi'n denant tai cymdeithasol? Ydych chi'n rhentu gan y cyngor (awdurdod lleol) neu Gymdeithas Tai?

Ydych chi'n denant tai cymdeithasol? Ydych chi'n rhentu gan y cyngor (awdurdod lleol) neu Gymdeithas Tai?

Dywedwch eich dweud drwy gwblhau'r arolwg drwy glicio yma

Rydym yn falch o lansio ein 4ydd arolwg blynyddol ar Rent a fforddiadwyedd, i glywed llais tenantiaid Cymru ar y pwnc pwysig hwn. Mae ein harolygon Pwls Tenantiaid ar y pwnc hwn wedi arwain at newid gwirioneddol. Bob blwyddyn, mae TPAS Cymru yn cyflwyno eich barn yn yr adroddiad hwn i uwch weision sifil, gan gynnwys y Gweinidog (bellach Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai) i'w hystyried..

Efallai mai dyma ein Pwls Rhent pwysicaf eto!

Ar 30 Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar greu polisi rhent a thâl gwasanaeth newydd i Gymru. Mae hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad yn ddiweddarach eleni ynghylch beth ddylai'r Polisi Rhent fod ar gyfer y 5-10 mlynedd nesaf, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod llais y tenant yn cael ei glywed yn yr ystyriaeth hon.

Bydd yr arolwg yn cymryd llai na 5 munud i'w gwblhau, a gallwch ddewis ymuno â’n raffl am ddim i ennill gwobrau bwyd blasus o Gymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, anfonwch e-bost at [email protected]