Dydd Mawrth 16th Medi 2025: 11am – 12:30pm
Byddwch yn rhan o'n sesiwn Ford Gron Cymru Gyfan nesaf i staff, gan ganolbwyntio ar ymateb i leithder/llwydni a pheryglon.
Mae effaith diffyg atgyweirio: lleithder a llwydni yng nghartrefi tenantiaid yn parhau i fod yn uchel ar yr agendâu, gan gynnwys yn yr atodiad disgwyliedig i Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), i nodi rheol(au) mewn perthynas ag ymateb landlordiaid cymdeithasol i leithder, llwydni a pheryglon eraill sydd ag effeithiau sylweddol ar iechyd.
Mae'r sesiwn Ford Gron ar-lein hon yn fforwm i'ch galluogi i rwydweithio, rhannu meddyliau a syniadau, gofyn cwestiynau a rhannu dulliau ac ymarfer gyda chynrychiolwyr eraill sy'n bresennol.
Yn ystod y Ford Gron nesaf hwn byddwn yn canolbwyntio ar rai themâu allweddol:
-
Paratoadau ar gyfer yr hydref/gaeaf – beth mae sefydliadau'n ei gynllunio i atal ac ymateb i gynnydd posibl mewn achosion yn ystod y misoedd oerach nesaf? e.e. ymgyrchoedd gwybodaeth i Denantiaid, hyfforddi staff, defnyddio synwyryddion a defnyddio data i nodi'r cartrefi sydd fwyaf mewn perygl.

-
Ymateb i beryglon - 'Rheol' arfaethedig – Sut mae eich sefydliad yn paratoi ar gyfer cyflwyno 'rheol' newydd arfaethedig? A yw eich sefydliad eisoes yn bodloni gofynion newydd posibl?
-
Astudiaeth Achos – byddwn hefyd yn clywed gan ClwydAlyn am sut maen nhw wedi newid eu polisi a'u proses Lleithder, Llwydni a Chyddwysiad.
Mae'r sesiwn hon yn gyfle i rwydweithio, i siarad yn agored â chyfoedion i rannu arfer a dysgu gan eraill, ac i archwilio beth fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i denantiaid.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn? – Mae'r sesiwn Ford Gron hon ar gyfer staff sydd â chyfrifoldeb am feysydd cysylltiedig fel rheoli asedau, atgyweiriadau, diogelwch adeiladau, cydymffurfiaeth a gwella gwasanaethau.
Sesiwn ar-lein rhad ac am ddim yw hon yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru
Cost: Am ddim i sefydliadau sy'n aelodau o TPAS Cymru
Ble: Ar-lein Zoom
Dim recordiad: Er mwyn annog sgwrs agored, ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio.
Gallai gweithred fach nawr – cofrestru – arwain at syniadau ffres, cysylltiadau a gwelliannau a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Bord Gron i Staff ar Lleithder/Llwydni a Pheryglon
Dyddiad
Dydd Mawrth
16
Medi
2025, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
15 Medi 2025
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad