Enillwyr Gwobrau Arfer Da 2025
Darganfyddwch fwy am y gwaith a'r cyflawniadau ysbrydoledig ledled Cymru
Roedden ni wrth ein bodd gyda'r holl gyflwyniadau ysbrydoledig a gwych a dderbyniwyd gennym ar gyfer ein Gwobrau Arfer Da 2025 ac roedden ni eisiau rhannu gwaith anhygoel yr enillwyr gyda chi.
Eleni, roedden ni wrth ein bodd yn bod yng Nghaerdydd unwaith eto gyda thenantiaid, staff a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru i ddathlu a rhannu rhywfaint o'r arfer da hwn ac i gefnogi ac ysbrydoli eraill.
Cyhoeddwyd ein henillwyr a'n henwebeion ar gyfer 2025 yn ein Seremoni Wobrwyo ar 25 Mehefin 2025 lle daeth tenantiaid, preswylwyr, gwirfoddolwyr cymunedol a staff o bob cwr o Gymru i ddathlu a rhannu arfer da ac i gefnogi ac ysbrydoli eraill.
Y categorïau ar gyfer 2025 oedd:
-
Tenantiaid yn Dylanwadu ar Wneud Penderfyniadau
-
Ymgysylltu â Thenantiaid mewn Mentrau / Prosiectau Amgylcheddol
-
Tenant y Flwyddyn
-
Cyflawniad Eithriadol gan Denant
-
Cyfraniad Eithriadol gan Staff
-
Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr
-
Cynnwys Tenantiaid wrth Ddylunio neu Adolygu Gwasanaethau
-
Cynnwys Tenantiaid wrth Ddylunio neu Adolygu Gwasanaethau (ATGYWEIRIADAU)
-
Cymunedau'n Cefnogi Cymunedau
-
Rhaglen Cymorth/Cyngor i Breswylwyr
Rhoddwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig hefyd.
Rydym wedi llunio'r adroddiad canlynol y gellir ei lawrlwytho i rannu'r dysgu ac ysbrydoli eraill:
ADRODDIAD GWOBRAU ARFER DA 2025
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr holl geisiadau buddugol a 3 uchaf y beirniaid yn y rownd derfynol mewn rhai categorïau perthnasol.
Diolch i holl enwebwyr gwobrau eleni am ddarparu'r cynnwys ar gyfer yr adroddiad hwn. Rydym wedi ychwanegu eu manylion cyswllt ar gyfer pob un o'r ceisiadau buddugol os hoffech ddysgu mwy am y prosiectau.
Hoffem hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am ariannu'r digwyddiad yn rhannol ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i'n noddwyr drwy gydol y flwyddyn, Tai Cymru a'r Gorllewin.

Diolch i chi gyd unwaith eto ac edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad TPAS Cymru yn fuan.