Y Pwls Tenantiaid pwysicaf hyd yma
Ydych chi'n denant Tai Cymdeithasol? Ydych chi'n rhentu gan y Cyngor neu Gymdeithas Tai?
Mae angen i’r Gweinidog Tai, Julie James, wneud penderfyniad pwysig iawn dros y mis nesaf ac rydym angen eich llais ar hyn o bryd. (Os ydych yn Rhentwr Preifat, mae Shelter Cymru ac eraill yn lobïo ar eich rhan a byddwn yn cysylltu â chi yn fuan gyda Pwls).
Beth yw'r broblem?
Yn draddodiadol, mae codiadau rhent mewn tai cymdeithasol wedi'u cysylltu â Chwyddiant. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae chwyddiant yn uchel iawn, ac mae gennym argyfwng costau byw gyda chostau ynni uchel.
Gosododd Llywodraeth Cymru ganllawiau penodol ar unrhyw godiadau rhent i Landlordiaid Cymdeithasol. Ar hyn o bryd maent yn ystyried beth ddylai lefelau rhent fod ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae cynrychiolydd y Gweinidog wedi gofyn i TPAS Cymru alluogi lleisiau tenantiaid i gael eu clywed yn y drafodaeth hon.
Rydym angen eich llais ar hyn o bryd i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich cynrychioli yn y penderfyniad hwn. Bydd eich lleisiau yn y mater hwn yn cael eu clywed gan y Gweinidog ei hun.
Opsiwn 1 - Mae gennym ni arolwg Pwls byr sy'n ymdrin â'r mater pwysig hwn a byddem yn ddiolchgar am eich ymateb. Mae pob ymateb yn ddienw, a bydd eich data yn ddienw yn ein canlyniadau. Mae angen cau'r arolwg erbyn nos Fawrth (4ydd Hydref) i ganiatáu amser i gyfleu eich barn i’r Gweinidog
Mae'r Pwls yn cymryd llai na 3 munud i'w gwblhau a bydd cyfle i gystadlu am raffl ar y diwedd, i ddiolch i chi am eich amser.
Gwnewch yn siŵr bod eich barn yn cael ei chlywed trwy gwblhau'r arolwg yma
Opsiwn 2 - Byddwn hefyd yn cynnal dwy sesiwn ffocws ar Zoom ar ddydd Mawrth 4ydd o Hydref.
Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi drafod gyda thenantiaid eraill.
Noder: Rydym eisiau clywed yn arbennig gan denantiaid y mae incwm y cartref yn bennaf yn dod o incwm gwaith neu gymysgedd o incwm gwaith/Credyd Cynhwysol.
I gofrestru ar gyfer y sesiynau hyn, defnyddiwch y dolenni isod.
Grŵp ffocws 1 (Dydd Mawrth 4 Hydref, 12:30-1:30pm) - Cofrestru ar gyfer y Cyfarfod - Zoom
Grŵp ffocws 2 (Dydd Mawrth 4 Hydref, 5:15pm - 6:15pm) - Cofrestru ar gyfer y Cyfarfod - Zoom
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, anfonwch e-bost at [email protected]