Mae TPAS Cymru, gyda chefnogaeth Sero, yn lansio cyfres newydd o sesiynau i godi ymwybyddiaeth, sbarduno trafodaeth, a rhannu atebion ymarferol ar draws y sector tai.

Deall y Warant Allforio Clyfar (SEG): Cyfleoedd ar gyfer Tai Cymdeithasol

Ein cynllun

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae TPAS Cymru wedi bod yn clywed mwy a mwy o gwestiynau am y Warant Allforio Clyfar (SEG) y cynllun sy'n caniatáu i aelwydydd sy'n cynhyrchu eu trydan adnewyddadwy eu hunain (trwy banel solar) ennill arian trwy allforio ynni gormodol yn ôl i'r grid.

Ond pan siaradom â'n rhwydwaith, nid oedd y darlun yn gyson. Mae rhai landlordiaid yn hawlio'r budd, tra bod eraill yn ansicr a all tenantiaid gadw'r incwm SEG neu sut y dylid ei reoli. Nid yw rhai yn ymgysylltu ag ef o gwbl.

Mae'r ddealltwriaeth anghyson hon yn golygu bod manteision SEGau mewn perygl o gael eu colli neu eu dosbarthu'n annheg ac mae hynny'n fater tenantiaid wrth wraidd trawsnewidiad teg i ddatgarboneiddio.

Dyna pam mae TPAS Cymru, wedi'i gefnogi gan Seroyn lansio cyfres newydd o sesiynau i godi ymwybyddiaeth, sbarduno trafodaeth, a rhannu atebion ymarferol ar draws y sector tai.

Rydym eisiau bod yn glir nad ein pwrpas yw gwneud gwaith unrhyw un yn anoddach na herio dulliau presennol. Yn hytrach, ein bwriad yw helpu'r sector i ddod o hyd i atebion ymarferol a rhannu syniadau sy'n gwneud SEGau yn haws i'w deall, yn decach i'w cymhwyso, ac yn fwy hygyrch i bawb.

Dyma bet sydd ar y gweill…

  1. Gwarant Allforio Clyfar wedi'i Symleiddio: Sesiwn Gyflwyno
    Gweminar esboniadol byr, hygyrch yn cyflwyno beth yw SEGau, sut maen nhw'n gweithio, a'r hyn maen nhw'n ei olygu i denantiaid a landlordiaid. Byddwn yn archwilio manteision allweddol, rhwystrau, a chwestiynau cyfredol mewn termau syml.

Cynulleidfa: tenantiaid, staff tai, ac unrhyw un sydd eisiau gwrando, dysgu a chyfrannu

Hwyluswyd gan: TPAS Cymru

Cefnogwyd gan: SERO

(Am ddim i denantiaid / £39 ar gyfer staff a gweithwyr proffesiynol)

 
  1. Trafodaeth Bord Gron Arbenigol
    Trafodaeth bord gron ar gyfer gwneuthurwyr penderfyniadau ac ymarferwyr. Byddwn yn dod ag arbenigwyr, landlordiaid a phartneriaid sector ynghyd i rannu dulliau, rhwystrau a syniadau ar gyfer symud ymlaen. Bydd y drafodaeth yn dechrau gyda mewnwelediadau byr gan sefydliadau fel Sero i daflu goleuni ar rai pethau ymarferol a phethau i'w hystyried.

Cynulleidfa: staff, swyddogion, a rhanddeiliaid y sector (nid oes angen presenoldeb tenantiaid)

Bydd rhagor o fanylion am sut i gofrestru ar gael yma yn fuan
(Am ddim i staff tai a rhanddeiliaid gwadd)

 
  1. Esboniad Fideo
    Yn ogystal, rydym hefyd yn bwriadu creu fideo byr, hawdd ei rannu sy'n dadansoddi SEGau mewn iaith bob dydd ar gyfer tenantiaid a staff gan helpu i gynnal y sgwrs ymhell ar ôl y sesiynau.
 
Rydym eisiau sicrhau y gall pawb gael mynediad at y sesiynau hyn a chael budd ohonynt:
  • Tenantiaid: ymunwch â'n sesiwn "Gwarant Allforio Clyfar wei'i Symleiddio"  am ddim i ddysgu'r hanfodion. Gweler y manylion llawn am y sesiwn a dolen i gofrestru yma
  • Staff Tai a gweithwyr proffesiynol: mynychwch y sesiwn gyflwyno (£39) a'n trafodaeth bord gron am ddim i gyfnewid syniadau and helpu i lunio ymagweddau SEG tecach. Dyddiad a manylion cofrestru i ddod yn fuan!
  • Partneriaid y sector: helpwch ni i leadaenu'r gair, rhannwch yr erthygl yma neu rhowch wahoddiad i'ch cydweithwyr i gymryd rhan.

Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu dealltwriaeth gyffredin o sut y gall Gwarantau Allforio Clyfar weithio i bawb gan sicrhau nad yw tenantiaid yn cael eu gadael allan o'r sgwrs am y newid ynni.