Yn galw ar bawb sy’n rhentu yng Nghymru
Rydym i gyd wedi clywed yr ymadrodd “Home Sweet Home” yn y Saesneg, ‘Cartref Hapus’ yn y Gymraeg, ond sut mae eich cartref chi?
Dyma eich cyfle i leisio barn ar ein 5ed Arolwg Pwls Tenantiaid Cymru. Mae’r holiadur hwn ar gyfer pawb sy’n rhentu yng Nghymru, gyda chwestiynau am eich cartref a’ch cymuned. Rydym eisiau clywed gennych am y pethau sy’n effeithio arnoch fwyaf.
Gydag etholiadau’r Senedd ar y gorwel, mae eich cyfraniad yn fwy pwysig nag erioed.
Clywir eich barn gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cyfrannu at drafodaethau polisi sy’n dylanwadu ar ddyfodol rhentu yng Nghymru.
Y newyddion gorau? Mae’n cymryd llai na 5 munud i’w gwblhau, ac fe allech gael eich eich cynnwys mewn raffl i ennill taleb £25 y gellir ei defnyddio mewn sawl siop.
Eleni, rydym am leisio llais y grwpiau dan gynrychiolaeth, a byddwn yn cynnal grwpiau ffocws bychain i sicrhau eu bod yn cael eu clywed ac i gyflenwi mewnwelediadau i’r adroddiad.
Efo diddordeb? Cwblhewch yr holiadur a dewiswch yr opsiwn ar waelod y dudalen.
Mae ein lleisiau’n gryfach gyda’n gilydd. Rydych chi’n cyfri.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected]
