Dewch draw i ddarganfod beth sy'n digwydd gyda rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru a rhannu eich barn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n arwain y gwaith pwysig hwn.

Fforwm Llais Tenantiaid Cymru Ionawr 2025

Dydd Mercher 15 Ionawr 2025: 10.30am – 12.00pm

Dewch draw i ddarganfod beth sy'n digwydd gyda rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru a rhannu eich barn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n arwain y gwaith pwysig hwn.

Yng Nghymru, mae angen i bob landlord cymdeithasol gadw at Safon ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol a Thaliadau Gwasanaeth (Safon Rhent a Thâl Gwasanaeth) Llywodraeth Cymru wrth osod eu rhenti. Mae’r safon hon yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid edrych ar fforddiadwyedd i Denantiaid, a sut mae landlordiaid yn ymgysylltu ac yn ymgynghori’n effeithiol â thenantiaid wrth osod rhenti.. 

Mae’r Safon bresennol yn ei lle hyd at 31 Mawrth 2026, felly mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gweithio i edrych ar ddatblygu safon rhent cymdeithasol clir a chadarnach ar gyfer y dyfodol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y polisi rhenti cymdeithasol yn y dyfodol yn adlewyrchu cyd-destun tai Cymru ac yn cydbwyso anghenion landlordiaid cymdeithasol a’u tenantiaid presennol a’r dyfodol. 

Felly beth ddylai gael ei gynnwys mewn Safon Rhent newydd?

Mae'n bwysig bod tenantiaid tai cymdeithasol yn cael cyfleoedd i gyfrannu at y broses o ddatblygu polisi, yn ogystal â chael cyfleoedd i ymateb drwy ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion polisi. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, bydd Repa Antonio o Lywodraeth Cymru yn mynychu Fforwm Llais Tenantiaid Cymru ym mis Ionawr i nodi’r hyn y maent yn ei wneud i ddysgu o weithrediad y polisi rhent cymdeithasol; pam eu bod yn blaenoriaethu'r gwaith hwn; a sut maent yn mynd ati i gyflawni eu rhaglen waith.  

Dywedodd Repa: Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i glywed yn uniongyrchol gan denantiaid am eu meddyliau, eu barn a'u profiadau ar y pwnc pwysig hwn.”

Pwy ddylai fynychu?

Tenantiaid

Cost

Rhad ac am ddim i denantiaid cymdeithasol

Pethau i'w gwybod:
  • Gweithdy ar-lein dros Zoom yw hon
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma

 

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Fforwm Llais Tenantiaid Cymru Ionawr 2025

Dyddiad

Dydd Mercher 15 Ionawr 2025, 10:30 - 12:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Tenantiaid

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X