I'r rhai ohonoch sydd ar y rhestr fer ar gyfer un o'n Gwobrau Arfer Da, gwahoddir chi i fynychu ein Seremoni Wobrwyo Gyda'r Nos a'n Cinio Gala

Gwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2026

Dydd Mercher 17 Mehefin, 6.00pm - 9.45pm (oddeutu) – Gwesty’r Marriott, Caerdydd

I bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ac wedi cael eu gwahodd i'n Seremoni Wobrwyo, dewch o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch isod.

Bydd Gwobrau Arfer Da a Chinio Dathlu TPAS Cymru eleni yn cael eu cynnal gan Elen Wyn

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Beth ddyliwn i wisgo?

Nid oes cod gwisg ffurfiol - rydym eisiau i'n cynrychiolwyr wisgo beth bynnag y maent yn gyfforddus ynddo. Gallwch wisgo i fyny neu i wisgo'n syml, chi sydd i benderfynu! Dewch i fwynhau eich Hunain. Mae'r digwyddiad yn noson groesawgar a chynhwysol i ddathlu llwyddiant a rhannu arfer da.

Faint o'r gloch mae'n cychwyn a gorffen?

Edrychwch ar y rhaglen isod am yr amseroedd. Os byddwch yn cyrraedd cyn 6pm, bydd bar Browns y gwesty wrth y brif dderbynfa ar agor nes bod drysau'r brif ystafell yn agor am 6pm.  O 6pm, ewch ymlaen i ardal bar y brif ystafell ac edrychwch ar y cynllun eistedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n eistedd mewn pryd!

A allaf i dynnu lluniau?

Cewch, bydd digon o gyfleoedd i dynnu lluniau wrth i bob gwobr gael ei chyflwyno. Bydd gennym ffotograffydd swyddogol hefyd yn ystod y noson yn tynnu lluniau o bob un o'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Bydd pob llun a dynnir ar gael ar-lein trwy TPAS Cymru yn ystod y dyddiau nesaf ar ôl y digwyddiad. Mae croeso mawr i chi hefyd dynnu eich lluniau grŵp yn ddiweddarach o flaen baner TPAS Cymru yn ardal y bar.

Pryd mae angen i ni archebu ein lleoedd?

Sicrhewch eich lleoedd i fynychu cyn gynted â phosibl. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig ac yn llenwi'n gyflym. Y dyddiad cau ar gyfer archebion yw dydd Mawrth, 9 Mehefin 2026.

Sut le yw'r lleoliad a pha mor hygyrch ydyw?

Gweler gwefan Gwesty'r Marriott, Caerdydd.  Sgroliwch i lawr am fanylion ac adran Cwestiynau Cyffredin y lleoliad.

Oeddech chi'n gwybod?
Yn ystod y dydd ar ddiwrnod y Seremoni Gwobrau’r Nos, byddwn yn cynnal ein ‘Diwrnod Arfer Gorau Ymgysylltu â Thenantiaid: Sut i ymgysylltu â phobl yn 2026 a thu hwnt’. Bydd hwn yn ddigwyddiad gwych yn rhannu astudiaethau achos ymarferol a syniadau. Beth am wneud diwrnod ohono a mynychu’r ddau ddigwyddiad trwy ddewis y ‘Pecyn Arbed’ ar y ffurflen archebu. Ceir manylion am y cynhadledd 1-dydd yma.

RHAGLEN AR GYFER Y NOS

 

Edrychwn ymlaen i'ch croesawu chi

 


TELERAU AC AMODAU

  1. Nid yw'r holl brisiau'n cynnwys TAW.
  2. Nid yw'r opsiynau'n cynnwys llety. Os ydych chi eisiau aros yn y gwesty hwn, bydd angen i chi archebu hyn yn uniongyrchol gyda nhw ar 02920 399944.
  3. Mae'r *gostyngiad pellter yn berthnasol i'r archebion hynny gan sefydliadau sydd wedi'u lleoli 50 milltir neu fwy o'r lleoliad
  4. Ni all TPAS Cymru dderbyn unrhyw archebion dros dro.
  5. Mae angen cadarnhad ysgrifenedig ar gyfer pob cansliad. Bydd cansladau a dderbynnir cyn y dyddiad 9 Mehefin 2026 yn cael eu had-dalu, heb gynnwys ffi weinyddol o £30.00. Ni fydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu prosesu ar ôl y dyddiad hwn.
  6. Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu'r digwyddiad yn gyfrifol am dalu'n llawn oni bai bod cyfathrebiad ysgrifenedig yn cael ei dderbyn erbyn y dyddiad canslo.
  7. Bydd unrhyw newidiadau, fel enwau, a wneir i'r archebion ar ôl 9 Mehefin 2026 yn golygu ffi weinyddol o £15.00 ynghyd â TAW fesul newid. 
  8. Efallai y bydd yn rhaid i TPAS Cymru ganslo'r digwyddiad hwn. Yn yr achos hwn, byddwn yn ad-dalu unrhyw daliadau a dderbyniwyd. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech eu hwynebu o ganlyniad i'r canslo.

 

 

 

 

 

 

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Gwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2026

Dyddiad

Dydd Mercher 17 Mehefin 2026, 18:00 - 21:45

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 09 Mehefin 2026

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Marriott Hotel

Cyfeiriad y Lleoliad

Mill Lane
Cardiff
Cardiff
CF10 1EZ

029 2039 9944

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X