Ymunwch â gweithwyr proffesiynol tai o bob cwr o'r sector ar gyfer fforwm wyneb yn wyneb sy'n canolbwyntio ar weithredu Rheol Ymateb i Beryglon SATC newydd

Rheol Ymateb i Beryglon – 6 Mis yn Ddiweddarach: Fforwm ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Tai (Gogledd Cymru)

Dydd Iau 8 Hydref – 9:45am* – 1.00pm (*sesiwn i gychwyn am 10am)

Lleoliad - Swyddfa COS, 77 Ffordd Conway, Bae Colwyn, LL29 7LN

Ymunwch â gweithwyr proffesiynol tai o bob cwr o'r sector ar gyfer fforwm wyneb yn wyneb sy'n canolbwyntio ar weithredu Rheol Ymateb i Beryglon SATC newydd a'r gwersi a ddysgwyd yn ystod y chwe mis cyntaf.

Mae'r sesiwn hwylusedig hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i gyfnewid profiadau ymarferol, trafod heriau sy'n dod i'r amlwg, a dulliau datrys problemau gyda chyfoedion o bob cwr o'r sector.

Mae meysydd trafod allweddol yn cynnwys:
  • Prosesau adrodd, blaenoriaethu ac asesu
  • Cyflawni amserlenni cydymffurfio
  • Rheoli heriau mynediad
  • Cyfathrebu effeithiol â thenantiaid
  • Ymateb i beryglon tymhorol a pharatoi ar eu cyfer – e.e. gwres gormodol/oerfel gormodol

Wedi'i gynllunio fel fforwm rhyngweithiol a chydweithredol, bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr rwydweithio, rhannu syniadau, gofyn cwestiynau, a dysgu o brofiadau bywyd go iawn ar draws y sector.

Ar gyfer pwy mae'r sesiwn?

Mae'r sesiwn Ford Gron hon ar gyfer staff sydd â chyfrifoldeb am feysydd cysylltiedig fel rheoli asedau, atgyweiriadau, cydymffurfio, diogelwch adeiladau, gwasanaeth cwsmeriaid a gwella gwasanaethau.

Beth i'w wybod:
  • Nid sesiwn hyfforddi ffurfiol yw hon, mae'r sesiwn hwylusedig hon wedi'i gynllunio i rannu dysgu, ac i archwilio atebion gyda chydweithwyr o bob cwr o'r sector.
  • Bydd y Fforwm hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu gwasanaethau i Denantiaid yn hytrach na manylion technegol
  • Mae'r sesiwn yn cychwyn yn brydlon am 10am – bydd digon o de/coffi a theisennau brecwast ar gael o 9:45am
  • Gan y bydd y sesiwn yn gorffen erbyn 1pm, ni ddarperir cinio
  • Mae'r lleoliad ond 14 munud o waith cerdded o Orsaf Trên Bae Colwyn, neu fel arfer mae digon o le i barcio ar y stryd gyfagos
  • Er mwyn sicrhau cyfranogiad cytbwys a thrafodaeth ystyrlon, i ddechrau, mae presenoldeb wedi'i gyfyngu i hyd at bedwar aelod o staff fesul sefydliad

Mae lleoedd wedi'i cyfyngu oherwydd capasiti'r lleoliad felly archebwch eich lle nawr, peidiwch â cholli allan

Sut i archebu

I sicrhau eich lle, archebwch gan ddefnyddio'r system archebu ar-lein isod ⬇️

Cost:
  • Staff (aelodau) - £39 +TAW
  • Pawb arall – dim yn berthnasol

Bydd y sesiwn yn cael ei hwyluso gan David Lloyd, Cyfarwyddwr y Rhaglen, TPAS Cymru

 

 

 

 

 

Archebwch eich lle drwy'r system ar-lein isod ⬇️


Telerau ac Amodau
  • Mae angen cadarnhad ysgrifenedig drwy e-bost ar gyfer pob cansliad. Bydd archebion a ganslwyd cyn hanner dydd ar 2 Hydref yn cael eu had-dalu. Ni fydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu prosesu ar ôl y dyddiad hwn.
  • Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu'r digwyddiad yn atebol i dalu'n llawn oni bai y derbynnir gohebiaeth ysgrifenedig erbyn y dyddiad canslo.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd dirprwyol heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid hysbysu pob cynrychiolydd dirprwyol i [email protected]. Os gwneir newidiadau i gynrychiolwyr dirprwyol ar ôl y dyddiad canslo, ni allwn warantu y byddwn yn gallu diwallu unrhyw anghenion penodol, e.e. dietegol. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i wirio.
  • Unwaith y byddwn wedi derbyn eich canslo, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslo atoch.
Hawl TPAS Cymru i ganslo 
  • Ein nod yw sicrhau bod y cyrsiau a'r digwyddiadau'n rhedeg yn ôl y cynllun. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo'r cwrs neu'r digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os felly, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych chi eisoes wedi talu am y cwrs neu'r digwyddiad a ganslwyd, byddwn yn trosglwyddo'ch archeb i ddyddiad wedi'i aildrefnu neu'n rhoi ad-daliad llawn i chi os nad yw'r opsiwn hwn yn bosibl. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech eu hwynebu o ganlyniad i'r canslo.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Rheol Ymateb i Beryglon – 6 Mis yn Ddiweddarach: Fforwm ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Tai (Gogledd Cymru)

Dyddiad

Dydd Iau 08 Hydref 2026, 10:00 - Dydd Gwener09Hydref2026, 13:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Gwener 02 Hydref 2026

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

david lloyd

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Centre of Sign Sight Sound (COS) Office

Cyfeiriad y Lleoliad

77 Conway Rd
Colwyn Bay
Conwy
LL29 7LN

01492 530013

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost
 
Cost y Digwyddiad
Staff (Aelodau)   Pris Llawn: £39.00  


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X