A ydych yn aelod o Grŵp Tenantiaid yng ngogledd Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth gyda’ch landlord i sicrhau bod llais y tenant yn cael ei glywed?

Rhwydwaith Aelodau Grwpiau Tenantiaid (Gogledd/Canobarthl)

Dydd Mawrth, 10 Hydref 2023: 10.30 -12.30pm

Swyddfa COS (Swyddfa TPAS Cymru),  77 Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7LN

Sesiwn am ddim i aelodau TPAS Cymru yn unig

A ydych yn aelod o Grŵp Tenantiaid yng ngogledd Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth gyda’ch landlord i sicrhau bod llais y tenant yn cael ei glywed?  E.e. Panel Preswylwyr, Pwyllgor Tenantiaid, Panel Craffu, Grŵp Monitro?

Os ydych chi, gwnewch yn siŵr bod eich grŵp yn rhan o’n digwyddiad rhwydwaith wyneb yn wyneb newydd i glywed beth mae grwpiau tenantiaid eraill yn ei wneud mewn cydweithrediad â’u landlord a sut maen nhw’n gweithredu. Bydd yn gyfle gwych i gwrdd â thenantiaid eraill, i rannu syniadau ac i ddysgu gan eraill.
 

Er mwyn helpu i reoli niferoedd ac i sicrhau bod cymysgedd o grwpiau landlordiaid yn mynychu, rydym yn y lle cyntaf yn gwahodd hyd at 2 gynrychiolydd tenantiaid o bob grŵp i fynychu'r Rhwydwaith arbennig hwn a rhannu'r hyn y mae eich grŵp yn ei wneud.

Dyma gyfle am sgwrs anffurfiol, i rannu beth mae eich grŵp yn ei wneud neu wedi ei gynllunio, ac i glywed beth mae grwpiau Tenantiaid eraill yn ei wneud.

I archebu eich lle, cysylltwch â: [email protected]

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Rhwydwaith Aelodau Grwpiau Tenantiaid (Gogledd/Canobarthl)

Dyddiad

Dydd Mawrth 10 Hydref 2023, 10:30 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

09 Hydref 2023

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

Tenantiaid

Siaradwr

Helen Williams

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

TPAS Cymru North Office

Cyfeiriad y Lleoliad

77 Conway Rd
Colwyn Bay
Conwy
LL29 7LN

01492593046

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X