Bydd y sesiwn yn anffurfiol gyda digon o le ar gyfer rhwydweithio gwerthfawr a fydd o fudd i chi a'ch sefydliad.

Sesiwn Ford Gron ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymgysylltu – rhanbarth Gogledd Cymru

Dyddiad: Dydd Llun, 1 Mehefin 2026
Amser: 12pm– 3pm

Lleoliad: Swyddfa COS,  77 Ffordd Conway, Bae Colwyn, LL29 7LN

Byddwch yn rhan o'n Sesiwn Ford Gron ranbarthol arbennig i aelodau yn unig ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymgysylltu. Byddem yn falch o'ch cael chi'n ymuno â ni.

Bydd y sesiwn am ddim hon yn dod â chydweithwyr ynghyd sy'n deall yn iawn y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu â thenantiaid.

Bydd y sesiwn yn anffurfiol gyda digon o le ar gyfer rhwydweithio gwerthfawr a fydd o fudd i chi a'ch sefydliad - disgwyliwch sgyrsiau agored a syniadau newydd. Byddwch hefyd yn clywed y diweddariadau diweddaraf ar bolisi tai ac ymgysylltu gan Arweinydd Polisi TPAS Cymru, Olivia Browne

Gyda'n gilydd, byddwn hefyd yn archwilio:
  • Beth allai canlyniadau etholiadau’r Senedd a llywodraeth newydd ei olygu ar gyfer Ymgysylltu â Thenantiaid a thai cymdeithasol
  • Disgwyliadau ymgysylltu tenantiaid Llywodraeth Cymru sydd ar ddod
  • Dangos gwerth pendant gwaith ymgysylltu o fewn eich sefydliadau
  • Mynd i’r afael â chamwybodaeth a heriau’r dyfodol yn nhirwedd gyfathrebu gymhleth heddiw

Ni fydd hon yn sesiwn ffurfiol, mae'n sgwrs hamddenol, onest ymhlith cyfoedion, yn canolbwyntio ar rannu syniadau, profiadau ac atebion ymarferol a fydd yn helpu i gryfhau ymgysylltiad ar draws ein sector.

Mae mynychiad am ddim ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymgysylltu o sefydliadau sy'n aelodau o TPAS Cymru

Dyma ychydig o fanylion ymarferol: 

 

  • Mae'r sesiwn yn cychwyn yn brydlon am hanner dydd a bydd te, coffi a brechdanau a lluniaeth ysgafn ar gael.
  • Byddwn yn gorffen erbyn 3:00pm. 
  • Mae'r lleoliad dim ond 14 munud o waith cerdded o Orsaf Drenau Bae Colwyn, neu fel arfer mae digon o le i barcio ar y stryd ar ffyrdd cyfagos.

Gobeithiwn y byddwch yn rhan o'r hyn sy'n siŵr o fod yn drafodaeth ysbrydoledig a chydweithredol - dyma un na fyddwch am ei cholli.

Sut i archebu

I archebu eich lle, anfonwch e-bost at: [email protected]    

Gwnewch yn siŵr eich bod yn hysbysu Iona o unrhyw anghenion penodol e.e., gofynion dietegol, mynediad i gadeiriau olwyn, parcio i bobl anabl ac ati erbyn y dyddiad cau.

Dyddiad cau: Dydd Iau 28 Mai – 12pm

Yn addas r gyfer: Gweithwyr proffesiynol ymgysylltu â thenantiaid

Cost: AM DDIM – yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Sesiwn Ford Gron ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymgysylltu – rhanbarth Gogledd Cymru

Dyddiad

Dydd Llun 01 Mehefin 2026, 12:00 - 15:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Llun 28 Mai 2026

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Centre of Sign Sight Sound (COS) Office

Cyfeiriad y Lleoliad

77 Conway Rd
Colwyn Bay
Conwy
LL29 7LN

01492 530013

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X