Cymraeg

Mae cychwyn prifysgol yn ddigon anodd heb boeni am ble rydych chi'n mynd i fyw'r flwyddyn nesaf. Mae yna ddigon o bethau i edrych amdanynt wrth edrych ar eiddo i'w rentu, ac mae'r mwyafrif ohonom yn rhy brysur gyda bywyd neu astudiaethau i feddwl am dystysgrifau diogelwch a larymau tân.

Yn ffodus, rydyn ni wedi tynnu'r straen allan o'r sefyllfa trwy greu'r canllaw eiddo Symudiadau Clyfar. Rydym wedi egluro nodweddion cytundebol neu ddiogelwch hanfodol eiddo rhent preifat ac wedi cynnwys yr union bethau sydd angen i chi wybod, a dim mwy.

Rydym hefyd wedi creu'r Rhestr Wirio Ymweld ag Eiddo i gyd-fynd â'r canllaw. Gallwch ddefnyddio'r Rhestr wirio i gofnodi gwybodaeth bwysig am bob lle y byddwch yn ymweld. Pan fyddwch wedi gorffen edrych ar eiddo, bydd gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn barod i'ch helpu i wneud eich penderfyniad.

Gobeithiwn y bydd Symudiadau Clyfar yn ddefnyddiol i chi a dymunwn pob lwc i chi yn eich astudiaethau.

Smart Moves