Cartrefi Cymoedd Merthyr

Marcus Powell


Mae Marcus yn Bartner Ymgysylltu â Thenantiaid yn sefydliad tai cydfuddiannol cyntaf Cymru, Cartrefi Cymoedd Merthyr ac mae’n gyfrifol am ymgysylltu â datblygiadau tai newydd a phrosiectau mawr. Ef hefyd yw Cadeirydd presennol eu Corff Democrataidd, sy’n cynnwys aelodau sy’n denantiaid ac yn weithwyr cyflogedig a’u rôl yw gwneud penderfyniadau allweddol ar wasanaethau hanfodol megis cymeradwyo’r strategaeth gorfforaethol, adolygu gosod rhenti yn y dyfodol a phenodi Cyfarwyddwyr Anweithredol a'r Prif Weithredwr.

Mae Marcus hefyd yn aelod o'u Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor Polisi.

Cyn sicrhau rôl o fewn y sector tai dros 5 mlynedd yn ôl, bu’n gweithio i Fanc Barclays am dros 13 mlynedd lle dyfarnwyd sawl gwobr iddo am wasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Ganed Marcus ac mae’n dal i fyw ym Merthyr Tudful ac mae’n angerddol am sicrhau bod llais y tenant ar flaen y gad ac yn ei amser hamdden mae’n chwarae hoci i Glwb Hoci Dynion Penarth

Linkedin Logo

 

Marcus Powell