Gweithdy arfer da gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

Atgyweiriadau, diffyg atgyweirio a lleithder a llwydni: ymdrin â chwynion yn effeithiol a rheoli achosion

Gweithdy arfer da gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dydd Iau 22 Chwefror 2024: 10.30am– 12pm

Byddwch yn rhan o’r gweithdy newydd hwn i edrych ar weithdrefnau arfer da ac ymdrin â chwynion yn gadarnhaol mewn perthynas â gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw, dadfeiliad, a lleithder a llwydni. 

Clywch gan Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a fydd yn rhannu’r syniadau a’r mewnwelediad diweddaraf a sut y dylai landlordiaid ddefnyddio eu cwynion yn ymwneud ag atgyweiriadau i ddysgu a gwella gwasanaeths .

Byddwch hefyd yn clywed gan Matt Harris, Pennaeth yr Awdurdod Safonau Cwynion a fydd yn rhannu eu barn ar sut y gall landlordiaid cymdeithasol ymdrin â chwynion mewn ffordd adeiladol, er budd landlordiaid a thenantiaid..

 

Cwrdd â'r Siaradwyr:

Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Matt Harris, Pennaeth yr Awdurdod Safonau Cwynion

Cost fesul person (nid grwp)
  • Staff/Bwrdd (aelodau): £59+TAW
  • Staff/Bwrdd (pawb arall): £99+TAW
  • Tenantiaid: Am ddim
Pethau i'w gwybod:
  • Rhwydwaith ar-lein yw hwn trwy Zoom
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
  • Mae’r gyfradd cynrychiolwyr ar gyfer un person nid archeb grŵp – codir tâl ar bob mynychwr: mae angen i bob mynychwr gofrestru’n unigol. Mae archebion a wneir ar gyfer 1 person yn unig ac os bydd pobl ychwanegol at y sawl a archebwyd yn bresennol yn ystod digwyddiad, bydd TPAS Cymru yn anfonebu am nifer y cynrychiolwyr sy’n mynychu, yn hytrach na nifer y bobl a archebwyd..  

Cofrestrwch trwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZMvfuirpzMpEt1_qAU12r0PxmmZq7Mp15Fi


Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
  • Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

 

 

 

 

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Atgyweiriadau, diffyg atgyweirio a lleithder a llwydni: ymdrin â chwynion yn effeithiol a rheoli achosion

Dyddiad

Dydd Iau 22 Chwefror 2024, 10:30 - 12:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X
Cancellation Policy – for paid online events
 
TPAS Cymru Right to Cancel

We aim to make sure that all online events run as planned. However, there may be times when, due to circumstances beyond our control, we have to cancel an event. Should this be the case we will give you as much notice as possible. If you have already paid for the cancelled event we will give you a full refund. Should we run the event again, we will give you priority