Swydd Wag Newydd: Cydlynydd Digwyddiadau ac Aelodaeth (Gogledd Cymru)
Rydym yn chwilio am berson cyfeillgar, brwdfrydig, a threfnus i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon.
Noder: mae hon yn rôl lle mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol * (Dylech allu siarad yn hyderus â siaradwyr Cymraeg rhugl ar bynciau sy'n ymwneud â bywyd bob dydd neu waith. Gallwch droi at y Saesneg wrth ddelio â sefyllfaoedd neu derminoleg gymhleth. Noder bod gennym gyfieithydd mewnol i gefnogi ein gwaith ysgrifenedig.)
Pwy ydyn ni?
Sefydliad dielw yw TPAS Cymru, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Ers 35 mlynedd, rydym wedi gweithio ledled Cymru i ddatblygu ymgysylltu effeithiol â thenantiaid a llais tenantiaid ym maes tai drwy hyfforddiant, cymorth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Rydyn ni'n caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n falch o'n gwaith.
Cefndir y rôl hon
Ledled Cymru, mae 222,000 o aelwydydd tai cymdeithasol (tai Cyngor a Chymdeithasau Tai) a 230,000 o rentwyr preifat.
Yn TPAS Cymru, rydym eisiau i lais a phrofiadau tenantiaid fod wrth wraidd cynlluniau a chael eu clywed wrth wneud penderfyniadau yn lleol ac ar lefel genedlaethol.
Rôl Cydlynydd Digwyddiadau ac Aelodaeth
Byddwch yn aelod allweddol o dîm cyfeillgar, creadigol a blaengar sy'n gweithio gyda ni i drefnu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ac i gefnogi ac adeiladu perthnasoedd â'n haelodau a'n rhanddeiliaid.
Byddwch yn bwynt cyswllt croesawgar, cyfeillgar a defnyddiol i'n haelodau ac mewn digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Byddwch hefyd yn cefnogi'r tîm i sicrhau bod ein gwaith a'n cyswllt ag aelodau yn cael ei gynllunio, ei reoli a'i gyflwyno'n effeithiol ac yn broffesiynol.
Mae angen i chi fod yn hyderus yn gweithio gydag ystod eang o bobl a chymunedau amrywiol yng Nghymru.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £22,400 am 28 awr yr wythnos (dyddiau/oriau gwaith i'w cytuno gyda'r ymgeisydd)
(Er gwybodaeth, y cyfwerth ag amser llawn fyddai £28,000)
Oriau: 28 awr yr wythnos*
*Oriau gwaith yn ystod yr wythnos i'w cytuno. ond dylent fod o fewn oriau gwaith 8am-6pm yn gyffredinol.
*Mae'r rôl yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd o ran oriau ac arosiadau dros nos yn achlysurol iawn.
Lleoliad: Hyblyg - Hybrid: cartref / swyddfa ac allan gydag aelodau rhanbarthol o bryd i'w gilydd. Yn ogystal â'r hyblygrwydd i weithio o gartref, mae gennym swyddfa ym Mae Colwyn y gellir ei defnyddio drwy gydol yr wythnos. Disgwylir y byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â'ch rheolwr llinell i drafod gwaith prosiect. Bydd teithio ar draws Cymru o bryd i'w gilydd.
Mae gennym lwfans gwyliau da iawn, cyfraniad pensiwn o 5%, yswiriant bywyd grŵp, diwylliant moesegol.
Mae TPAS Cymru yn sefydliad Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Rydym yn cefnogi ac yn annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth.
Poeni nad ydych chi'n bodloni'r holl feini prawf? Gwnewch gais beth bynnag!!
Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud cais am swydd fel hon, oherwydd eu bod yn teimlo nad ydynt yn bodloni pob rhan o'r disgrifiad swydd. Nid pobl ticio blychau ydyn ni, rydyn ni eisiau gwybod beth allwch chi ei gynnig, nid yr hyn nad oes gennych chi, a dylai eich cais adlewyrchu hynny.
Os oes gennych chi'r agwedd gywir a'r sgiliau sylfaenol, rydyn ni'n cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu i ddatblygu i'r rôl. Ein hunig feini prawf hanfodol yw ein gofyniad iaith Gymraeg a nodir uchod.
Dyma'r Swydd Ddisgrifiad a manylion am y rôl hon
Yn ogystal, dyma drosolwg 1 dudalen o'r hyn y mae'r rôl yn ei olygu fel arfer
DYDDIADAU ALLWEDDOL
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: canol 4pm, Dydd Llun 13 Hydref
-
Dyddiad cyfweliad: w/c 20 Hydref 2025
Diddordeb? Yn gyntaf, darllenwch y disgrifiad swydd uchod, a chynghorwn yn gryf eich bod yn darllen y nodyn trosolwg ategol ynghylch sut beth yw'r rôl. Hefyd edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol, gwefan a sianel YouTube am wybodaeth am ein gwaith. Dysgwch fwy am bwy ydym ni a beth rydyn ni’n credu ynddo.
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod y rôl yn fwy manwl, byddem wrth ein bodd cael sgwrs anffurfiol â chi. Gyrrwch e-bost atom [email protected] a threfnwch amser ar gyfer galwad.
Barod i ymgeisio?
-
Lawr lwythwch y ffurflen gais a ffurflen cyfleoedd cyfartal.
-
Anfonwch y ddau yn ôl gyda CV i [email protected] erbyn 4pm, Dydd Llun 13 Hydref 2025
Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.