Dydd Mawrth 18 Hydref: 10.30 – 12.30pm
Bydd y sesiwn hyfforddiant hwyliog a rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg/cyflwyniad i Gymdeithasau Tai yng Nghymru. Os ydych chi'n newydd i dai cymdeithasol ac ymgysylltu neu os ydych chi eisiau 'gloywi' mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi!
Yn ystod y sesiwn byddwn yn edrych ar:
-
Beth yw Cymdeithasau Tai a phwy maent yn atebol i?
-
Pa wasanaethau maen nhw'n eu darparu ac i bwy?
-
O ble maen nhw'n cael eu Hincwm o a beth maen nhw'n ei wario ar?
-
Pa fygythiadau a heriau mae Cymdeithasau Tai yn wynebu nawr ac yn y dyfodol?
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r sesiwn hyfforddiant hon ar gyfer tenantiaid, staff ac aelodau o'r bwrdd sy'n newydd i Gymdeithasau Tai neu sydd am gael 'cwrs gloywi' ynghylch sut mae CT yng Nghymru yn gweithredu a beth yw eu swyddogaethau/cyfrifoldebau.
Cost
-
Tenantiaid: £29 +TAW
-
Staff/Bwrdd (aelodau): £59 +TAW
-
Staff/Bwrdd (pawb arall): £89 +TAW
Pethau i'w gwybod:
-
Sesiwn hyfforddi ar-lein yw hon dros Zoom
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
-
Oherwydd natur ryngweithiol y cwrs hwn gofynnwn fod pob camera yn cael ei gadw ymlaen am hyd y sesiwn.
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZckcu6rqz0qEtdOPttiC36GnUwu6JORtEz8
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai
Dyddiad
Dydd Mawrth
18
Hydref
2022, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 12 Hydref 2022
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Helen Williams
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad