Dydd Mercher, 23 Mehefin 2021: 11.00am – 12.30pm
Mae ein Fforwm Craffu rhyngweithiol yn agored i staff a thenantiaid sydd â diddordeb mewn gweithgareddau craffu. P'un a ydych chi'n craffu ar wasanaethau, polisïau neu benderfyniadau mae'r Fforwm hwn ar eich cyfer chi.
Wrth i landlordiaid tai cymdeithasol addasu eu gwasanaethau a'u polisïau mewn ymateb i bandemig Covid-19 ni fu tenant graffu lwyddiannus erioed mor bwysig, felly sut allwn ni addasu i sicrhau bod craffu yn gweithio'n effeithiol ar-lein?
Ein siaradwyr gwadd ar gyfer y Fforwm Craffu yma fydd Jon Upchurch, Swyddog Ymgysylltu a Chraffu, a Paula Grebot, Cadeirydd Panel Craffu wedi ei arwain gan Breswylwyr o Sovereign Housing yn ne a gorllewin Lloegr. Byddant yn rhannu astudiaethau achos / arfer da ynghylch sut y gwnaethant barhau i graffu yn ystod y cyfnod clo yn 2020 a'r hyn a ddysgon nhw. Byddant hefyd yn trafod sut y maent yn addasu ac yn cynllunio ar gyfer prosiectau craffu yn y dyfodol gan ddefnyddio dull ‘cyfunol’ o gynnal cyfarfodydd ac ymgynghoriadau.
Cost:
Tenantiaid (aelodau) – am ddim
Staff (aelodau) - £29
Staff a thenantiaid (heb fod yn aelodau) - £59
I gofrestru eich lle, cliciwch ar y ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwkd-6oqT8oGNbIrIkYUck33Mx4Z3PeYEMP
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Fforwm Craffu
Dyddiad
Dydd Mercher
23
Mehefin
2021, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
21 Mehefin 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad