Dydd Mercher 26 Mai 2021 – 11am – 12.30pm
Dewch i'n rhwydwaith anabledd i rannu arfer da, gofyn cwestiynau a cheisio cyngor mewn perthynas ag ymgysylltu â thenantiaid.
Ein siaradwr gwadd yn y Rhwydwaith Anabledd hwn yw Dr. Steffan Evans, o Sefydliad Bevan. Bydd Steffan yn canolbwyntio'n benodol ar y cysylltiadau rhwng anabledd a thlodi.
Mae pandemig Covid 19 wedi datgelu dyfnder yr anghydraddoldeb a oedd eisoes yn bodoli yn ein cymdeithas fel erioed o'r blaen. Mae pobl sy'n byw mewn tlodi wedi bod mewn mwy o berygl o fynd yn sâl ac yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan effaith economaidd y cyfnod clo. Mae bron i hanner yr holl bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru naill ai'n anabl eu hunain neu ag aelod teulu sy'n anabl. Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y rhesymau dros hyn ac i rannu rhai o'ch syniadau am yr hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael â thlodi.
Cost: Aelodau - £29; Pawb arall - £49
I archebu eich lle, cliciwch ar y ddolen gofrestru Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZAtdO-rrDIiGNFuYvdJl6PmPSHi6zJPOZnC
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Anabledd
Dyddiad
Dydd Mercher
26
Mai
2021, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
24 Mai 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad