Oherwydd diddordeb yn ein cynhadledd flynyddol, rydym yn ail-redeg ein sesiwn ‘Nudge’. Ymunwch â ni i gael nifer o syniadau i chi eu gweithredu yn eich sefydliadau

Sut i ddefnyddio syniadau ‘Nudge’ i wella eich cyfathrebiadau

Dydd Iau 13 Ionawr 2022 – 10.30-12.30

Oherwydd diddordeb yn ein cynhadledd flynyddol, rydym yn ail-redeg ein sesiwn ‘Nudge’. Ymunwch â ni i gael nifer o syniadau i chi eu gweithredu yn eich sefydliadau.

Darganfyddwch sut y gallwch chi ddefnyddio'r hyn rydyn ni'n ei wybod am sut mae pobl yn ymddwyn a meddwl i ddod o hyd i ffyrdd o wella cyfathrebu â thenantiaid a chymunedau.

Byddwn yn rhannu digon o syniadau ymarferol ‘nudge’ a marchnata i’ch helpu i ddatblygu negeseuon ac arddulliau cyfathrebu newydd, yn ogystal ag edrych ar bwysigrwydd chynllunio ymyriadau ‘nudge’ yn effeithiol.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i Landlordiaid Cymdeithasol fod yn siŵr bod eu cyfathrebiadau yn cyrraedd pob tenant ac yn cael sylw, felly peidiwch â cholli allan ar y sesiwn hanfodol hon.

Pwy ddylai fynychu?
Pawb sydd eisiau bod yn rhan o greu cyfathrebiadau gwych i denantiaid a / neu gymunedau.
 
Cost:
£59 aelodau;  £99 pawb arall
 

Cofrestrwch eich lle trwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZEscuuhrDwqHtLtQKiaw0llcVxmIPTvbraO

Noder: Dim ond un waith sydd angen i chi gofrestru - bydd eich dolen yn gweithio ar gyfer yr holl sesiynau dros y 2 ddiwrnod.

Ar ôl i chi gofrestru trwy'r ddolen uchod, byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach.

Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook


Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Sut i ddefnyddio syniadau ‘Nudge’ i wella eich cyfathrebiadau

Dyddiad

Dydd Iau 13 Ionawr 2022, 10:30 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mercher 12 Ionawr 2022

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

Elizabeth Taylor

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi