Rhwydweithiau Tenantiaid

Rhannwch brofiadau a gwybodaeth gydag eraill, trafodwch materion sy’n ymwneud â thenantiaid a chlywed y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf gennym ni.

Fel rhan o'ch aelodaeth, mae TPAS Cymru yn trefnu cyfarfodydd rhwydwaith rhanbarthol i denantiaid sy'n aelodau gweithgar o grwpiau tenantiaid cynrychioliadol fel Paneli Tenantiaid, Fforymau, Gweithgorau, Grwpiau Arolygu a Chraffu.

Cynhelir y rhwydweithiau hyn ddwywaith y flwyddyn ac maent yn gyfle ardderchog i denantiaid rannu profiad, arfer da a gwersi a ddysgwyd gydag eraill ar draws eu rhanbarth. Cynhelir y rhwydweithiau yng ngogledd, gorllewin a de Cymru.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i denantiaid, fodd bynnag, mae'r landlord yn talu ffi nominal i dalu costau lluniaeth/ llogi ystafell, felly, bydd angen i chi gadarnhau eich presenoldeb gyda'ch landlord. Oherwydd poblogrwydd y cyfarfodydd hyn, fel arfer rhaid i ni gyfyngu’r nifer i dri o denantiaid pob landlord.

Mae tenantiaid yn cyd-ddylunio'r agendâu a’r siaradwyr rydym yn eu gwahodd er mwyn ysgogi trafodaeth a rhannu arfer da.

Rhwydwaith swyddogion

I’r holl weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â thenantiaid ac ymgysylltu â'r gymuned gael eu hysbrydoli a chael cyfarfod cyd-swyddogion drwy sefydliadau Tai er mwyn rhannu heriau a dod o hyd i atebion.

Cynhelir y rhwydweithiau swyddogion bob chwarter ac fel arfer maent yn cael eu cynnal yng ngogledd a de Cymru, ac yn cael eu cyfyngu i aelodau yn unig. Codir ffi nominal i dalu costau lluniaeth.

Mae digwyddiad Rhwydwaith Swyddogion Aelodau TPAS Cymru yn rhoi cyfle i swyddogion ddal i fyny â staff eraill o’r un anian, i gael gwybod beth sy'n digwydd yn lleol ac ymhellach i ffwrdd, i rannu gwybodaeth ac arfer da yn ogystal â thrafod heriau a materion cyfredol. Yn aml, bydd y rhwydwaith yn cynnwys siaradwr allanol yn sôn am bwnc penodol perthnasol cyfredol.

Rydym yn ymfalchïo mewn hwyluso'r digwyddiadau hyn ac mae'r adborth yn gadarnhaol iawn. Mae’r lleoedd yn llenwi'n gyflym.


ARhwydwaith Tai Cymru Gyfan Awdurdodau Lleol: Cyfranogiad Preswylwyr

Mae'r digwyddiad rhwydweithio Cymru gyfan hwn yn cynnig cyfle i breswylwyr a staff Awdurdodau Lleol fyfyrio ar eu cyfleoedd cyfredol i ymgysylltu â phreswylwyr.

Mae Awdurdodau Lleol yn rhan allweddol o dai cymdeithasol a theimla TPAS Cymru nad yw'n cael yr un sylw â mathau eraill o Dai Cymdeithasol. Rydym eisiau newid hynny. Mae yna bob amser rhai newidiadau neu heriau mawr i’w trafod a dywed aelodau ei fod yn fuddiol iawn canolbwyntio ar Awdurdodau Lleol yn unig.

Mae hefyd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu eu profiadau o gynnwys preswylwyr, arfer da a gwelliannau i wasanaethau a gyflawnwyd. Cynhelir y rhwydwaith yn flynyddol ar hyn o bryd, a chafodd dderbyniad da iawn y llynedd gan yr holl gynrychiolwyr a fynychodd.

Rhwydwaith Anabledd

Ar hyn o bryd, cynhelir y Rhwydwaith Anabledd unwaith y flwyddyn yng ngogledd a de Cymru - ein cynllun yn y dyfodol yw rhedeg 4 digwyddiad, 2 yn y gogledd a 2 yn y de bob blwyddyn, ac os bydd y galw yn caniatáu, rhannu de Cymru i’r De Ddwyrain a'r Gorllewin.

Mae'n gyfle i ddwyn ynghyd tenantiaid anabl, gofalwyr, aelodau o'r teulu a staff sy'n gweithio gyda thenantiaid anabl, o bob rhan o Ogledd a De Cymru i rannu profiadau, llwyddiannau a gwersi a ddysgwyd.

Mae’r digwyddiad yn sesiwn anffurfiol a chyfranogol a gaiff ei hwyluso, sy’n aml gyda siaradwyr gwadd yn rhannu'r datblygiadau diweddaraf sy'n gysylltiedig ag anabledd a thai cymdeithasol yng Nghymru.


TPAS Cymru's Disability Network  Beth a ddywedodd tenantiaid am y digwyddiad.

Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau

Cynhelir y rhwydwaith cyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaeth yn y gogledd a'r de bob blwyddyn ac mae'n gyfle i staff sy'n darparu gwasanaethau cymorth ddod at ei gilydd mewn awyrgylch anffurfiol a dysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu syniadau arfer gorau.


I bwy mae’r digwyddiad hwn?
Unrhyw staff sy'n darparu gwasanaethau cymorth, gan gynnwys staff cymorth prosiect, staff cymorth fel y bo'r angen, gweithwyr llety dros dro a wardeiniaid ayb.

Pam mae’n bwysig i mi?
Ar wahân i'r bwffe, mae'r rhaglen lawn a chyfle i gwrdd â chydweithwyr o sefydliadau eraill, ac mae’r diwrnod hefyd yn cynnwys y cyfle:-

I ddysgu am feysydd newydd o ddatblygiad
I drafod yr heriau o ran ymgysylltu defnyddwyr gwasanaeth
I rannu arfer gorau a dysgu gan eraill
Cyngor Da: yr awgrymiadau a chyngor diweddaraf gan TPAS Cymru ar gyfer cynnwys defnyddwyr gwasanaeth