MAE'R SESIWN YN AWR YN LLAWN
Dydd Mercher, 14 Medi: 9:30am – 11:00am
Wedi'i ddilyn gan sesiwn rhwydweithio dewisol ar gyfer trafodaethau a chwestiynau pellach rhwng 11am -11:30am
Mae’r Fframwaith Rheoleiddiol presennol yn gosod disgwyliad clir ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i egluro sut mae anghenion a safbwyntiau tenantiaid wedi’u deall a’u hystyried fel rhan o’r hunanwerthusiad.
I archwilio sut y gallai hyn edrych yn ymarferol, ymunwch â’r sesiwn gweithdy ar-lein newydd hwn i archwilio ffyrdd y gall LCC gynnwys tenantiaid yn effeithiol mewn hunanwerthuso.
Bydd TPAS Cymru yn rhannu barn a syniadau a bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu dulliau gweithredu ac ymarfer gyda’r cynrychiolwyr eraill sy’n bresennol.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn?
Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio ar gyfer tenantiaid a staff sy'n ymwneud â rheoleiddio a/neu ymgysylltu â thenantiaid ac aelodau bwrdd. Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer y gweithdy hwn felly fe'ch cynghorir i archebu'n gynnar.
Cost:
Staff (aelodau) ac aelodau bwrdd - £29 + TAW
Tenantiaid - £29 + TAW
Pawb Arall - £59 + TAW
Hwylusydd y Sesiwn – David Lloyd
MAE'R SESIWN YN AWR YN LLAWN
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Hunanwerthuso a Rheoleiddio – archwilio sut i gynnwys tenantiaid
Dyddiad
Dydd Mercher
14
Medi
2022, 09:30 - 11:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 13 Medi 2022
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad