Ymunwch â Ni Ar-lein ar gyfer Lansiad ein 5ed Pwls Tenantiaid Blynyddol

Lansio Arolwg Blynyddol Pwls Tenantiaid 2025

Dydd Mawrth, 16 Rhagfyr: 10am-11am

Ymunwch â Ni Ar-lein ar gyfer Lansiad ein 5ed Pwls Tenantiaid Blynyddol

Gofynnwyd i denantiaid ledled Cymru am faterion tai pwysig. Maen nhw wedi siarad ac rydyn ni eisiau rhannu'r hyn a ganfuom. Mae TPAS Cymru yn eich gwahodd i ddigwyddiad ar-lein lle byddwn ni'n cyflwyno canfyddiadau'r 5ed Arolwg Pwls Tenantiaid Blynyddol, gan archwilio profiadau, blaenoriaethau a barn tenantiaid ar y dirwedd tai sy'n newid.

Pam mynychu?
  • I glywed mewnwelediadau allweddol gan denantiaid ledled Cymru
  • I ddysgu am y materion sy'n llunio tai cymdeithasol a phreifat
  • I ymgysylltu a gofyn cwestiynau am y canfyddiadau
Manylion y digwyddiad:
  • Fformat: Ar-lein
  • Dyddiad ac amser: Dydd Mawrth, 16 Rhagfyr: 10am-11am

Arolwg cenedlaethol TPAS Cymru yw Pwls Tenantiaid sy'n rhoi llais i bob tenant yng Nghymru ar y materion pwysicaf. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i glywed yn uniongyrchol gan denantiaid a gweld sut mae eu barn yn helpu i lunio polisi tai. Cyflwynwyd canfyddiadau'r llynedd i Lywodraeth Cymru. Cafodd Pwls Tenantiaid ei arwain gan ein Grŵp Cynghori Pwls Tenantiaid, sy'n cynnig eu harbenigedd mewn profi a sicrhau bod yr arolwg o ansawdd.

Mae'r sesiwn yn daddas ar gyfer: Unrhyw un sydd â diddordeb mewn clywed llais y tenantiaid yng Nghymru - croeso i bob tenant, staff tai, landlordiaid ac arbenigwyr.

Cost: AM DDIM

Pethau i'w gwybod:
  • Sesiwn ar-lein dros Zoom fydd hon
  • Byddy sesiwn yn cael ei recordio

Arhwbwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Lansio Arolwg Blynyddol Pwls Tenantiaid 2025

Dyddiad

Dydd Mawrth 16 Rhagfyr 2025, 10:00 - 11:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 16 Rhagfyr 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

AGOS X