Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022: 9.30am – 11.30am
Mae cael cyfathrebiadau parhaus yn y ffordd gywir ac at y bobl iawn yn allweddol i roi Rhentu Cartrefi ar waith yn effeithiol.
Bydd y Rhwydwaith hwn yn rhoi cyfle i staff Awdurdodau Lleol archwilio syniadau a rhannu cynlluniau ar gyfer y ffordd orau o ddosbarthu cyfathrebiadau sy’n ymwneud â Rhentu Cartrefi i denantiaid a rhanddeiliaid eraill..
Bydd TPAS Cymru yn rhannu rhai syniadau a meddyliau a bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau/rhannu arfer da gyda’r cynrychiolwyr eraill sy’n bresennol..
Ymunwch â ni ar gyfer y rhwydwaith cyffrous hwn! Gorau oll mae’n rhad ac am ddim ac ar gyfer aelodau TPAS Cymru yn unig.
Os nad ydych wedi mynychu digwyddiad TPAS Cymru o’r blaen, bydd croeso mawr i chi!
COST: rhad ac am ddim ac ar gyfer aelodau TPAS Cymru yn unig
Cynhelir y digwyddiad dros Zoom
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r sesiwn rhwydwaith ar-lein ar gyfer Staff o Awdurdodau Lleol sy'n ymwneud â gweithredu a chyfathrebu Rhentu Cartrefi – mae ar gyfer aelodau TPAS Cymru yn unig.
Dyddiad cau i archebu yw 4pm, dydd Llun 7 Mawrth 2022
Pethau i’w wybod:
-
Sesiwn ar-lein drwy Zoom fydd hon
-
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly archebwch yn gynnar
-
Efallai y byddem yn defnyddio ystafelloedd grŵp i alluogi trafodaeth a rhannu arfer
-
Gan ei fod yn sesiwn ryngweithiol bydd gofyn i chi droi camerâu ymlaen
-
Ni fydd y sesiwn y cael ei recordio
Cofrestrwch eich lle drwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZ0udO-rpzorGNARPV7PIC-RhaufpiU5lTEt
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Staff Awdurdodau Lleol– Gweithdy Cyfathrebu Rhentu Cartrefi
Dyddiad
Dydd Mawrth
15
Mawrth
2022, 09:30 - 11:30
Archebu Ar gael Tan
07 Mawrth 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad