Ymunwch â ni ar gyfer ein Rhwydweithiau Swyddogion TPAS Cymru nesaf sy'n canolbwyntio ar 2 bwnc mawr. Mae'r rhwydweithiau wedi'u cynllunio i rannu arfer da, syniadau ac atebion, yn ogystal ag adeiladu eich rhwydweithiau

Rhwydwaith Swyddogion (Zoom)

27 Medi 10am-12pm

Ymunwch â ni ar gyfer ein Rhwydweithiau Swyddogion TPAS Cymru nesaf sy'n canolbwyntio ar 2 bwnc mawr. Mae'r rhwydweithiau wedi'u cynllunio i rannu arfer da, syniadau ac atebion, yn ogystal ag adeiladu eich rhwydweithiau.

Ym mis Medi eleni byddwn yn treialu rhwydwaith wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd yn ogystal â sesiwn ar-lein ar wahân ar ddyddiad gwahanol – fel y gallwch ddewis pa sesiwn sy'n gweithio orau i chi.

Mae'r sesiynau am ddim ac ar gyfer staff o sefydliadau sy'n aelodau o TPAS Cymru yn unig.

Yn dilyn adborth gan ein haelodau bydd y rhwydweithiau'n canolbwyntio ar y ddwy thema ganlynol:

1)     Cefnogi Tenantiaid drwy'r argyfwng costau byw
Byddwn yn edrych ar yr hyn y mae landlordiaid yn ei wneud a pha gymorth sydd ar gael i denantiaid.
 
2)      Cynnwys tenantiaid yn ein cymunedau
O guro drysau a sioeau teithiol i deithiau cerdded ystadau, pa ddulliau sy'n gweithio orau i ddal mewnwelediad tenantiaid, clywed eu lleisiau a meithrin cydberthnasau?
 

Gweler y manylion isod am wybodaeth a sut i gofrestru i sicrhau eich lle.

Sesiwn wyneb yn wyneb

22 Medi 2022

Sesiwn ar-lein

27 Medi 2022

Tai Taf
307-315 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd
CF5 1JD
 
Dyddiad – 22 Medi 2022
Amser – 10am – 1pm
Cofrestru – ebostiwch [email protected]
Zoom
 
 
 
 
Dyddiad  – 27 Medi 2022
Amser  – 10am – 12pm
Cofrestru  - drwy’r ddolen Zoom isod

 

Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer staff, gweithwyr tai proffesiynol neu wasanaethau cymorth sy'n gweithio yn y sector sydd â diddordeb mewn rhannu arfer gorau a rhwydweithio i eraill yn y sector 

Cost (+TAW): Yn rhad ac am ddim i sefydliadau sy'n aelodau

Archebwch eich lledrwy'r ddolen Zoom yma: https://tpascymru.sharepoint.com/:f:/s/Share/EteaJCYrcqNaulPm8xS50bIBgTWdsTEQ2pLZrivtJU7vMw?e=0mfd1S

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Rhwydwaith Swyddogion (Zoom)

Dyddiad

Dydd Mawrth 27 Medi 2022, 10:00 - 12:00

Archebu Ar gael Tan

26 Medi 2022

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

Eleanor Speer

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X