Dydd Mawrth 17 Mehefin 2025 – 2pm - 3:30pm (Gweminar Zoom)
Ymunwch â'n gweminar hanfodol ar y newidiadau diweddaraf i Reoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru!
Mae rheoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn newid, gyda chyflwyno Safonau Rheoleiddio newydd a model asesu wedi'i ddiweddaru. Mae'r newidiadau hyn yn nodi disgwyliadau clir y mae'n rhaid i Gymdeithasau Tai eu bodloni, gan gynnwys dangos eu bod yn gwrando'n weithredol ar leisiau tenantiaid ac yn ymateb iddynt.
Clywch gan Ian Walters, Pennaeth Strategaeth a Pholisi Rheoleiddio yn Llywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi trosolwg o'r newidiadau a'r hyn y mae'r rheoleiddwyr yn disgwyl ei weld, gyda ffocws ar yr hyn y mae hyn yn ei olygu ar gyfer ymgysylltiad tenantiaid.
Yn y sesiwn addysgiadol a diddorol hon, byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau hyn, gan y byddwn yn trafod y canlynol:
-
Trosolwg o'r Safonau Rheoleiddio Diwygiedig newydd
-
Beth mae canllawiau cysylltiedig Llywodraeth Cymru yn ei ddweud a beth fydd hyn yn ei olygu'n ymarferol i Gymdeithasau Tai
-
Wrth fynd ymlaen - Beth mae'r rheoleiddwyr yn disgwyl ei weld o ran dangos y safonau a chlywed llais y tenantiaid
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r weminar hwn yn hanfodol i staff, tenantiaid, aelodau bwrdd, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn rheoleiddio tai. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael y diweddariadau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ac aros ar flaen y gad.
Cost
-
Tenantiaid: AM DDIM
-
Staff/Bwrdd (aelodau): £39 + TAW
-
Staff/Bwrdd (sydd ddim yn aelodau): £89 + TAW
Pethau i'w gwybod
-
Sesiwn ar-lein dros Zoom yw hon
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook
Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Safonau a Chanllawiau Rheoleiddio Newydd: beth fyddant yn ei olygu i Landlordiaid a Thenantiaid yng Nghymru?
Dyddiad
Dydd Mawrth
17
Mehefin
2025, 14:00 - 15:30
Archebu Ar gael Tan
16 Mehefin 2025
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad