Sesiwn hyfforddi ryngweithiol gydag arbenigwr craffu blaenllaw yn y DU, Dr Dave Mckenna
Dydd Iau, 27 Mai: 10.30 – 12.30
Mae'r sesiwn ryngweithiol hon ar gyfer tenantiaid/aelodau bwrdd sy'n ymwneud â chyfarfodydd bwrdd a / neu graffu a bydd yn edrych ar ffyrdd o fod yn fwy adeiladol a chynhyrchiol mewn cyfarfodydd. Bydd awgrymiadau ymarferol yn cael eu rhannu i'ch helpu chi i feddwl am yr hyn rydych chi eisoes yn ei wneud yn dda a pha bethau newydd y gallech chi roi cynnig arnyn nhw.
Mae Dave yn tynnu ar ddoethineb arbenigwyr sgwrsio fel hyfforddwyr, hwyluswyr a chyfryngwyr er mwyn darparu awgrymiadau, technegau a fframweithiau y gellir eu defnyddio a'u rhannu'n hawdd.
Bydd y sesiwn yn gymysgedd o gyflwyniadau byr a gweithio mewn grwpiau bach fel y gallwch ddysgu gan gyfranogwyr eraill a chael cyfle i roi cynnig ar bethau.
Bydd pynciau allweddol yn cynnwys:
-
Her adeiladol a chefnogaeth adeiladol
-
Fformiwla syml ar gyfer gwneud cyfraniad
-
Pa gwestiwn i'w ddefnyddio a phryd
-
Awgrymiadau ar gyfer adeiladu sgyrsiau cynhyrchiol mewn cyfarfodydd
Cost: £59 aelodau £89 pawb arall
I archebu eich lle, cofrestrwch trwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZMtc-GuqDopHtN3sgVbw6Nud7ULmWedFADk
Sesiwn hyfforddi ryngweithiol gydag arbenigwr craffu blaenllaw yn y DU, Dr Dave Mckenna
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Sgiliau cwestiynu adeiladol ar gyfer craffu / byrddau
Dyddiad
Dydd Iau
27
Mai
2021, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 20 Mai 2021
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
Tenantiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad