Dydd Iau, 20 Mai: 14.30 – 16.30
Ymunwch â ni yn y sesiwn yma yn llawn syniadau i chi.
Darganfyddwch sut y gallwch chi ddefnyddio'r hyn rydyn ni'n ei wybod am sut mae pobl yn ymddwyn a meddwl i ddod o hyd i ffyrdd o wella cyfathrebu â thenantiaid a chymunedau.
Byddwn yn rhannu digon o syniadau ymarferol ‘nudge’ a marchnata i’ch helpu i ddatblygu negeseuon ac arddulliau cyfathrebu newydd, yn ogystal ag edrych ar bwysigrwydd chynllunio ymyriadau ‘nudge’ yn effeithiol.
Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i Landlordiaid Cymdeithasol fod yn siŵr bod eu cyfathrebiadau yn cyrraedd pob tenant ac yn cael sylw, felly peidiwch â cholli allan ar y sesiwn hanfodol hon.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r digwyddiad yma yn addas ar gyfer unrhyw aelod o staff sydd eisiau bod yn rhan o greu cyfathrebiadau gwych i denantiaid a / neu gymunedau.
Cost: £59 (aelodau); £89 (Pawb arall)
I archebu eich lle, cofrestrwch drwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZYrdeCgpzIsHdfHrNnLnZIcX2kx3QKUI6nF
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Sut i ddefnyddio syniadau ‘Nudge’ i wella eich cyfathrebiadau
Dyddiad
Dydd Iau
20
Mai
2021, 14:30 - 16:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 19 Mai 2021
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Elizabeth Taylor
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad